Mae disgyblion Ysgol Bro Pedr wedi llwyddo i godi digon o arian i brynu peiriant diffibriliwr ar gyfer yr ysgol.

Daeth y syniad ar ôl i 15 o ddisgyblion o flwyddyn 11 gyflawni eu Cymhwyster Cymorth Cyntaf Brys Lefel 3 gyda Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Roedd y disgyblion yn teimlo bod hi’n hynod o bwysig bod ganddyn nhw ac eraill yn yr ysgol y sgiliau, y wybodaeth a'r offer i'w defnyddio mewn argyfwng.

Cododd Mrs Caryl Jones a disgyblion Ysgol Bro Pedr swm anhygoel o £1,150 trwy drefnu sêl gacennau yn yr ysgol ar 28 Mawrth 2019. Mae’r ysgol yn estyn eu diolch i fusnesau Llambed ‘Oh My Cod’ ac ‘Y Becws’ am y eu rhodd garedig tuag at y gwerthiant.

Dywedodd Guto Crompton, Gweithiwr Ieuenctid yn yr Ysgol: “Er nad yw cymorth cyntaf yn rhan orfodol o’r cwricwlwm addysg yng Nghymru, roedd pobl ifanc yn Ysgol Bro Pedr yn teimlo y dylai fod yn rhywbeth yr oedd pob disgybl yn gwybod amdano. Byddent wedyn yn gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng, boed hynny yn yr ysgol neu allan yn y gymuned. Gweithiodd y disgyblion yn galed i gyflawni eu cymhwyster Cymorth Cyntaf a oedd yn ymdrin ag agweddau megis CPR, rheoli damweiniau a defnyddio diffibriliwr.”

Bydd y peiriant diffibriliwr yn cael ei osod yn nerbynfa’r ysgol.

Llun: Guto Crompton, Gweithiwr Ieuenctid yn yr Ysgol; Disgybl Narissa Jones, Mr Dafydd Charles, Dirprwy Bennaeth; Disgybl Cloey Farquar, Disgybl Kyle Hughes a Mrs Caryl Jones, sef Cydlynydd y BTEC, gyda’r diffibriliwr oddi wrth Proactive First Aid.

12/11/2019