Dros y misoedd diwethaf mae aelodau brwdfrydig Ysgol Berfformio Theatr Felinfach wedi bod yn magu sgiliau newydd trwy gyfres o ddosbarthiadau meistr gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Maent wedi bod yn brysur yn creu deunydd trwy sgriptio, cyfarwyddo, coreograffi, clocsio, dawnsio gwerin a llawer mwy. Bydd eu holl waith caled yn cael ei ddangos ar Nos Lun 28 Hydref am 7:00yh yn Theatr Felinfach yn eu perfformiad o ‘CAMAU’. Dyma’ch cyfle i weld ffrwyth eu gwaith!

Sefydlwyd yr Ysgol Berfformio ym Mis Ionawr 2017 a bellach mae wedi tyfu i fod yn grŵp poblogaidd iawn. Mae’n gyfle gwych i unigolion 7 -18 mlwydd oed fanteisio ar brofiadau newydd ym myd y theatr trwy gyfrwng y Gymraeg ac i wneud ffrindiau newydd gyda phobl ifanc sydd â’r un angerdd am berfformio.

Eleni trefnwyd dau drip i aelodau’r Ysgol Berfformio. Ym mis Mehefin, aeth y grŵp perfformio i weld sioe ‘Lexicon’ gan gwmni syrcas graddfa fawr fwyaf blaenllaw’r DU 'NoFitState' yn Bluestone, Arberth. Roedd y gynulleidfa fel un yn dal ei hanadl, yn rhyfeddu ac yn edmygu ar ddoniau amryddawn y perfformwyr. Roedd gweld wynebau’r plant yn amhrisiadwy.

Yna yn hwyrach ym mis Gorffennaf, aeth y grŵp perfformio i weld ‘Chores’ yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth, cynhyrchiad a drefnwyd gan gwmni ‘Cluster Arts’, cwmni o Awstralia. Stori am ddau fachgen ifanc yn chwarae yn eu llanast o ystafell oedd sylfaen y sioe hon a gwelwyd nhw’n defnyddio’u sgiliau acrobatig i gael trefn ar yr annibendod. Roedd y sioe wedi’i hysbrydoli gan chwedlau ‘slapstick’ Buster Keaton a Charlie Chaplin.

Mae Theatr Felinfach yn gobeithio parhau i gymryd aelodau i weld sioeau a chynyrchiadau amrywiol i roi cyfle iddynt brofi theatr broffesiynol dros eu hunain.

Mae’r Ysgol Berfformio yn cwrdd pob nos Iau - yr aelodau cynradd (7-11 oed) o 4:30yp hyd 5:30yp a’r aelodau hŷn (12-18 oed) o 5:30yp hyd at 7:00yh.

Mae'r tâl aelodaeth bob hanner tymor ac mae’n amrywio rhwng £30 a £35 yn ddibynnol ar oedran yr aelodau.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yr Ysgol Berfformio a darganfod sut i ddod yn aelod yn y flwyddyn newydd, cysylltwch â sioned.thomas@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01570 470697.

Mae’r tocynnau i sioe CAMAU yn £6 i oedolion, £5 i aelodau’r theatr a phensiynwyr a £4 i blant a myfyrwyr. Gellir eu harchebu drwy’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein ar theatrfelinfach.cymru.

16/10/2019