Gall gweithredoedd caredig wneud gwahaniaeth mawr – dyna neges ymgyrch newydd sy’n cael ei lansio yng Ngheredigion heddiw, dydd Gwener 17 Gorffennaf.

Yn yr un modd a Sir Benfro a Sir Gâr, bwriad Cysylltu â Charedigrwydd yng Ngheredigion ydy creu dealltwriaeth am les a dylanwad caredigrwydd arnom ni ein hunain, ac eraill yn ein cymuned. Mae’n seiliedig ar bontio’r cenedlaethau gan feithrin cysylltiadau i leihau’r unigrwydd a’r teimlad o fod yn ynysig sy’n gyffredin mewn llawer o gymunedau.

Mae Cysylltu â Charedigrwydd wedi deillio o raglen datblygwyd o fewn y Gronfa Trawsnewid Gorllewin Cymru Iachach. Mae’r ymgyrch rhanbarthol wedi ei ddatblygu gan dair sir gorllewin Cymru; Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Sir Ceredigion. Hefyd, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Ceredigion a Sir Gâr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet a chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd, “Bydd yr ymgyrch hon yn dathlu ac yn annog mwy o'r gwaith gwych a'r gweithredoedd o garedigrwydd y mae unigolion a grwpiau wedi eu dangos yn ein cymunedau ar draws Ceredigion.”

Dywedodd Cynghorydd Catherine Hughes, yr Aelod Cabinet ar gyfer Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant, “Mae ganddon ni gyd rhywbeth i’w gynnig, rhywbeth all wneud gwahaniaeth i bobl o’n cwmpas. Gall un weithred benodol fod yn ddibwys i ni, ond gall wneud byd o wahaniaeth i berson sy’n teimlo’n unig.”

Dywedodd Cyra Shimell, Cysylltydd Cymunedol ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion, “Mae Ceredigion yn llawn o bobl sydd eisoes yn cyflawni gweithredoedd caredig bob dydd. Dyma gyfle i ddathlu hynny, ac annog mwy o bobl o bob oed i ymuno a medi'r manteision.”
Dywedodd Rebecca Evans, Uwch Swyddog Iechyd Cyhoeddus o Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos fod gweithredoedd caredig yn gwneud gwahaniaeth mawr i les a bod caredigrwydd yn dda i chi.”

Fel rhan o’r ymgyrch, mi fydd y partneriaid rhanbarthol yn datblygu rhwydweithiau cymunedol cryfach er mwyn creu amgylchedd ble mae gweithredoedd caredig yn gallu ffynnu a digwydd yn naturiol.

Medrwch gofrestru a gwneud adduned yma. Mae gwefan benodol Cysylltu â Charedigrwydd Ceredigion yma. Gallwch hefyd ymuno â thudalen Facebook yr ymgyrch drwy chwilio am: 'Cysylltu â Charedigrwydd Ceredigion – Connect to Kindness Ceredigion'.

Am fwy o fanylion ar Cysylltu â Charedigrwydd, cysylltwch â Cyra Shimell, Cysylltydd Cymunedol ar 01545 574200 neu cyra.shimell@ceredigion.gov.uk.

Rhannwch y neges, gan fod y cyfan yn dechrau gydag un person, CHI!

17/07/2020