Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch dyfodol darpariaeth addysg yn Ysgol Gynradd Beulah ac Ysgol Gynradd Trewen. Cynhelir hefyd ymgynghoriad arall ynghylch dyfodol darpariaeth addysg yn Ysgol Gynradd Cilcennin. Gwnaethpwyd y penderfyniadau yma yn unol ag argymhellion Panel Adolygu Ysgolion y Cyngor.

Mewn cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2018, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dderbyn argymhellion y Panel Adolygu Ysgolion ar gyfer Ysgolion Cynradd Beulah, Trewen a Chenarth yn ne’r sir. Mewn penderfyniad arall ar wahân, derbyniodd y Cabinet argymhellion y Panel ar gyfer Ysgol Gynradd Cilcennin yng nghanolbarth y sir.

Mae’r Panel yn argymell cymeradwyo parhau â'r addysg yn Ysgol Gynradd Cenarth ac i'r ysgol aros ar agor, ac i beidio cynnal darpariaeth addysg yn Ysgolion Cynradd Beulah a Threwen o 31 Awst 2019 ymlaen. Argymhellwyd i beidio cynnal y ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Cilcennin o 31 Awst 2019 ymlaen. Argymhella’r Panel bod angen cychwyn y broses ymgynghori ynghylch Ysgolion Cynradd Beulah a Threwen yn ogystal ag Ysgol Gynradd Cilcennin. Bydd yr ymgynghoriadau yn cychwyn ganol mis Medi 2018.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae’r Panel Adolygu Ysgolion wedi ystyried yn fanwl y ffactorau dilys ar gyfer dyfodol darpariaeth addysg yn ardal Ysgolion Cynradd Beulah a Threwen a hefyd yn ardal Ysgol Gynradd Cilcennin. Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet o argymhellion y Panel, mae nawr yn hanfodol ein bod yn ymgynghori yn llawn er mwyn derbyn adborth y cymunedau lleol ar y cynigion.”

Mae penderfyniadau’r Cabinet yn cyfrannu tuag at wireddu blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor o fuddsoddi yn nyfodol y bobl. Yn dilyn y broses ymgynghori, y Cyngor llawn fydd yn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach ar y materion hyn.

10/07/2018