Mae Jennifer Ladd – Ymarferydd Nyrsio mewn Argyfwng sydd wedi ymddeol o Uned Mân Anafiadau (UMA) Ysbyty Aberteifi – wedi cael eu gwobrwyo â Medal yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd y fedal ei gyflwyno gan Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw ei Mawrhydi yn Nyfed ar 30 Mai 2019.

Dyfarnwyd y fedal i Mrs Ladd am ei hymroddiad i wella gofal a diogelwch cleifion yn ei chymuned. Fe'i dyfarnwyd hefyd ar gyfer mentora myfyrwyr a sicrhau llwyddiant yr unig UMA dan arweiniad nyrsys cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ymddeolodd Mrs Ladd ym mis Medi 2018.

Mae hi'n dylanwadu ar y cynlluniau ar gyfer y Ganolfan Gofal Integredig newydd yn Aberteifi. Y bwriad yw adeiladu ar y gwasanaeth presennol a chynnwys oriau estynedig.

Eifion Evans yw Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, "Mae Mrs Ladd wedi gweithio'n ddiflino yn ei chymuned ers blynyddoedd. Fe arweiniodd hi’r UMA yn Ysbyty Aberteifi am 10 mlynedd ac mae wedi chwarae rhan hanfodol o ran darparu gofal rheng flaen hanfodol i ardal wledig yng ngorllewin Cymru. Mae hi'n llawn haeddu'r fedal.

Dywedodd Mrs Ladd, “Roedd yn anrhydedd go iawn i mi dderbyn y wobr hon ac i weld bod ein hymdrech i gynnal a datblygu'r Uned Mân Anafiadau wedi cael ei gydnabod. Edrychaf ymlaen at weld Canolfan Gofal Integredig newydd Aberteifi yn agor gyda'r Uned Mân Anafiadau yn chwarae rhan allweddol yn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu yno.”

Cyflwynir Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am gyfraniad lleol estynedig neu am waith arloesol o bwys.

04/06/2019