Ar 27 Ionawr 2020 yn Llys Ynadon Aberystwyth, plediodd Lee Watson o 5 Bute Avenue, Henffordd, yn euog o bymtheg trosedd oedd yn ymwneud â gwerthu nwyddau ffug.

Roedd Watson yn preswylio ym Mharc Gwyliau Brynowen yn Y Borth pan gyflawnwyd y troseddau ym mis Mehefin 2019. Clywodd y llys y gwnaed ymchwiliad ar ôl i aelodau o’r cyhoedd roi gwybod ei fod yn gwerthu dillad ac esgidiau ffug ar Facebook. Gweithredwyd gwarant yn ei garafán gwyliau ar 13 Mehefin 2019, a daeth swyddogion o hyd i ystod o ddillad ac esgidiau gyda logo’r brandiau Nike, Adidas, Balenciaga, The North Face, Ellesse, Converse a Levi’s – pob un ohonynt yn rhai ffug. Atafaelwyd y nwyddau’n syth, ac amcangyfrifir eu bod yn werth £8240.

Cydweithredodd Watson yn llawn gydag ymchwiliad y Tîm Safonau Masnach, a bu iddo gyfaddef i’r troseddau mewn cyfweliad. Honnodd ei fod wedi prynu’r nwyddau ffug er mwyn eu gwerthu mewn arwerthiannau cist car lleol, ond penderfynodd eu hysbysebu ar y grŵp ‘Aberystwyth swap shop’ ar Facebook ar ôl i’r arwerthiannau cist car gael eu canslo oherwydd glaw.

Galwyd Watson i’r llys am bymtheg trosedd oedd yn mynd yn groes i Ddeddf Nodau Masnach 1994. Roedd y troseddau’n ymwneud â meddu ar nwyddau ffug a’u rhoi ar werth. Plediodd Watson yn euog i bob trosedd yn ei wrandawiad cyntaf yn Llys Ynadon Aberystwyth.

Roedd adroddiad yn manylu ar sut yr oedd Watson wedi mynd i ddyled ac wedi ystyried bod hwn yn gyfle i ennill rhywfaint o arian cyflym. Ei fwriad oedd prynu nwyddau o farchnad yng nghanolbarth Lloegr a’u gwerthu’n lleol yng Ngheredigion er mwyn gwneud elw.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd. Croesawodd ef y ddedfryd, a rhybuddiodd y byddai unrhyw droseddau tebyg yn cael eu hymchwilio a’u herlyn yn unol â pholisi gorfodi’r Cyngor. Pwysleisiodd, “Mae Ceredigion yn sir sy’n croesawu ac yn cefnogi busnesau didwyll ac yn ceisio eu helpu i dyfu a ffynnu. Mae camarfer hawliau eiddo deallusol, megis nodau masnach yn yr achos hwn, yn tanseilio un o bileri sector masnach greadigol y sir yn ogystal â’r gystadleuaeth deg rhwng busnesau didwyll. Bydd perygl i unrhyw un sy’n ystyried gwerthu nwyddau ffug wneud colled ariannol, ymddangos yn y llys a derbyn cosb.”

Dedfrydwyd Watson i orchymyn cymunedol o ddeuddeg mis, pymtheg diwrnod o weithgarwch adsefydlu, a 120 awr o waith di-dâl. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu £815 o gostau i Gyngor Sir Ceredigion a thâl llys o £85. Gorchmynnodd yr Ynadon bod y nwyddau ffug yn cael eu dinistrio.

31/01/2020