Mae’r cynnydd uchaf yn nifer yr achosion yng Ngheredigion ers mis Ionawr i’w gweld ar hyn o bryd. Mae yna bryder y bydd y nifer hwn yn parhau i gynyddu yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf.
Mae’r tabl isod yn dangos y nifer o achosion i bob 100,000 (ffigurau 15 Awst 2021):
Achosion i bob 100,000 |
15/8/21 |
Ceredigion |
188.5 |
Aberteifi & Aberporth |
247.8 |
Beulah, Troedyraur & Llandysul |
148.8 |
Ceinewydd & Penybryn |
471.6 |
Llanbedr Pont Steffan & Llanfihangel Ystrad |
109.2 |
Aberaeron & Llanrhystud |
169.1 |
Rheidol, Ystwyth & Caron |
86.6 |
De Aberystwyth |
209.2 |
Gogledd Aberystwyth |
169.8 |
Borth & Bontgoch |
174.7 |
Atgoffir trigolion ac ymwelwyr Ceredigion i wneud y canlynol, hyd yn oes os ydynt wedi cael dau ddôs o’r brechlyn:
- Golchi eich dwylo a gwisgo masg, yn enwedig mewn mannau prysur, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau neu leoliadau gofal iechyd a gofal cymdeithasol, lle bo hynny’n ofyniad cyfreithiol.
- Cadw eich pellter. Er bod y rheol 2m wedi dod i ben, cofiwch fod gan fusnesau’r hawl i gynnal cyfyngiadau tebyg er mwyn helpu i gadw eu staff a’u cwsmeriaid yn ddiogel.
- Cofio bod cwrdd y tu allan yn fwy diogel na chwrdd y tu mewn.
- Gadael awyr iach i mewn i leoliadau dan do.
- Mynd am brawf a hunanynysu, hyd yn oed os oes gennych symptomau ysgafn.
- Gweithio o adref lle bynnag bo hynny’n bosibl.
Wrth i’r haf derfynu a’r hydref agosáu, bydd tymor y ffliw gyda ni cyn pen dim, sydd yn aml yn cyflwyno pwysau ychwanegol i’n gwasanaethau cyhoeddus. Rhaid i ni gadw mewn cof sut y gall yr hyn a wnawn effeithio ar ein ffrindiau, ein teulu, ein cymuned a’n gwasanaethau cyhoeddus nawr a nes ymlaen.
Dewch i helpu ni i gadw ein sir yn ddiogel.
20/08/2021