Bydd y Gwarchodlu Cymreig yn cael Rhyddfraint Sir Ceredigion mewn seremoni yn Aberteifi ar 24 Mehefin 2020.
Cafodd y penderfyniad i ganiatáu'r rhyddfraint ei gymryd gan Gyngor Sir Ceredigion mewn cyfarfod arbennig ar 19 Rhagfyr 2019.
Ysgrifennodd y Cyrnol Tom Bonas o'r Gwarchodlu Cymreig at Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog y cyngor i ofyn i'r cyngor ystyried caniatáu Rhyddfraint y Sir i'r gatrawd.
Yn ei lythyr, ysgrifennodd y Cyrnol Tom Bonas, “Mae gennym Ryddfraint Siroedd eraill yng Nghymru yn ogystal â Dinasoedd a Threfi, ond mae Ceredigion yn eithriad nodedig. Mae'n Sir mor brydferth gyda threftadaeth gyfoethog a byddai’n fraint fawr i fod â chysylltiad ffurfiol â hi. Felly, gofynnwn i Gadeirydd y Cyngor a Chyngor y Sir a fyddent yn ystyried cynnig Rhyddfraint y Sir i Bumed Gatrawd Gwarchodlu Troedfilwyr Ei Mawrhydi, ac unig Warchodlu Troedfilwyr Cymru.”
Fe gadarnhaodd y cyngor hefyd ddyddiad yr ailgadarnhad o Ryddfraint Sir Geredigion i Gatrawd y Cymry Brenhinol. Bydd hwn yn cael ei gynnal yn Aberaeron ar 27 Mehefin 2020.
Y Cynghorydd Paul Hinge yw Hyrwyddwr Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer y Lluoedd Arfog. Dywedodd, “Mae'n fraint ac yn anrhydedd i allu cynnig Rhyddfraint y Sir i'r Gwarchodlu Cymreig. Mae ganddynt hanes hir ac agos â Cheredigion. Mae llawer o'n dinasyddion yn gyn-filwyr y lluoedd arfog, ac mae llawer ohonynt wedi gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cymreig.
“Cafodd y berthynas hon ei hatgyfnerthu'n ddiweddar pan drefnodd y cyngor a'i bartneriaid i roi enwau tri milwr a fu farw ar y Gofeb Rhyfel yn Aberteifi. Roedd dau ohonynt o’r Gwarchodlu Cymreig, a gollodd eu bywydau yn Ynysoedd y Falkland ac yn Affganistan. Mae ein perthynas yr un mor gryf â Chatrawd y Cymry Brenhinol. Er yn gatrawd hollol wahanol, byddant yn gorymdeithio yn Aberaeron i ail-gadarnhau eu hawliau sydd eisoes wedi eu sefydlu i Ryddfraint y Sir.
“Rwy'n falch iawn bod fy nghydweithwyr ar y cyngor wedi cefnogi'r cais hwn gan y gallwn bellach ddarparu dau ddigwyddiad ysblennydd ar gyfer y cyhoedd ac ymwelwyr â Cheredigion ym mis Mehefin, gan anrhydeddu'r rhai sy'n amddiffyn ein gwlad.”
Mae'r penderfyniadau yn anrhydeddu ymrwymiadau a wnaed gan y cyngor yng Nghyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog. Mae'r cyngor eisioes wedi llofnodi'r cyfamod i gefnogi'r Lluoedd Arfog, eu teuluoedd a chyn-filwyr.
23/12/2019