Cynhelir Wythnos y Gofalwyr rhwng dydd Llun 8 Mehefin a dydd Sul 14 Mehefin. Ymgyrch flynyddol ydyw er mwyn cydnabod y cyfraniad mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau. Gofalwr yw rhywun sy’n edrych ar ôl ffrind neu aelod o’r teulu sydd ddim yn gallu ymdopi ar ei ben ei hun o achos salwch, afiechyd, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed i gyffur.

Mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol hyd yn hyn gan fod nifer o bobl wedi gorfod parhau i ofalu wrth weld gwasanaethau cymorth yn newid yn sylweddol neu’n cymryd saib heb unrhyw syniad pryd y bydd pethau’n mynd yn ôl i ryw fath o drefn arferol.

Mae’r Uned Gofalwyr a’i phartneriaid wedi bod yn gweithio’n galed i gyflwyno amrywiaeth o bethau arbennig i ofalwyr ledled y sir er mwyn rhoi gwybod i ofalwyr bod pobl yn meddwl amdanynt ac yn eu gwerthfawrogi. Mae e-fwletin arbennig ynglŷn ag wythnos y gofalwyr wedi’i baratoi sy’n llawn syniadau i daclo diflastod a thechnegau i gadw’n gall.

Mae myfyrwyr o Goleg Ceredigion wedi bod yn gweithio gyda’r Uned Gofalwyr i baratoi negeseuon o ddiolch ar-lein, cwis sy’n addas i ofalwyr a’u teuluoedd, prosiect cyfaill drwy’r post, ac maent yn annog gofalwyr i ymuno â nhw ddydd Sul, 14 Mehefin i godi cwpanaid o de i ofalwyr am 3pm.

Mae’r Uned Gofalwyr a’i holl bartneriaid yn gwahodd gofalwyr i ymuno â nhw mewn un neu fwy o’r dros 30 o sesiynau ar-lein am ddim sydd wedi’u cynllunio â gofalwyr di-dâl mewn cof. Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw.

I gael rhagor o wybodaeth a chael gwybod sut i ymuno â dathliadau wythnos y gofalwyr, ewch i’r dudalen Gofalwyr ar wefan y Cyngor Cyngor http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-ofalwyr/wythnos-gofalwyr-2020/ tudalennau’r cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol, neu cysylltwch â’r Uned Gofalwyr ar 01970 633564 / carersunit@ceredigion.gov.uk

'Mae angen unigolyn cryf i barhau i ofalu – mae angen unigolyn cryfach a gwytnach i ymestyn allan at bobl eraill.'

02/06/2020