Mewn cyfarfod ar 18 Gorffennaf, argymhellwyd bod Cynllun Gweithredu a Datganiad Blynyddol parthed Caethwasiaeth Fodern yn derbyn cymeradwyaeth terfynol.

Fe argymhellodd Bwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu Cyngor Sir Ceredigion bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Gweithredu a Datganiad Blynyddol sydd wedi eu paratoi yn dilyn i’r Cyngor fabwysiadu Polisi Atal Caethwasiaeth Fodern.

Mae’r Polisi yn cynnwys dull integredig sy’n tynnu ynghyd meysydd allweddol diogelu, adnoddau dynol, caffael ac argyfyngau sifil.

Dywedodd Hyrwyddwr Cyflogaeth Foesegol ac Atal Caethwasiaeth, y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE, “Mae Caethwasiaeth Fodern yn aml yn cael ei hystyried i fod yn broblem drefol, ond mae’n gallu digwydd mewn unrhyw gymuned ac ni allwn fod yn hunanfodlon. Dw i’n hyderus bod y Cynllun gweithredu yn golygu bod y Cyngor yn cymryd camau ystyrlon tuag at daclo troseddau ofnadwy ac yn cefnogi’r bobl fregus sydd o bosib yn cael eu heffeithio.”

Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys y symudiad, gorfodaeth a chamfanteisio o oedolion bregus a phlant. Mae’r mathau o gamfanteisio yn cynnwys camfanteisio ar weithwyr, camfanteisio’n rhywiol, camfanteisio troseddol, caethwasanaeth domestig a thynnu organau. Yn 2016, adroddwyd bod 123 o ddioddefwyr posib o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru. Plant oedd 17% ohonynt. Amcangyfrif y gall fod 10,000 i 13,000 o ddioddefwyr o gaethwasiaeth fodern yn y DU.

02/08/2018