Mae canlyniadau Safon Uwch a gyhoeddwyd heddiw (16 Awst) gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn cyrraedd safonau uchel.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, “Estynnwn ein llongyfarchiadau didwyll i ddisgyblion chweched dosbarth Ceredigion sydd, unwaith eto, wedi perfformio cystal yn eu harholiadau Lefel A. Diolch i staff ysgolion, Llywodraethwyr a rhieni sydd wedi cefnogi ein pobl ifanc i gyflawni eu potensial. Eleni eto, mae’r llwyddiant hwn yn deillio o ymdrechion a gwaith caled ein disgyblion, ynghyd ag ansawdd yr addysg a ddarparwyd gan athrawon Ceredigion. Rydyn ni’n falch o lwyddiannau haeddiannol ein pobl ifanc a dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol.”
Enillwyd gan bron 27% o ymgeiswyr raddau A*- A ac enillwyd gan 77% o ymgeiswyr raddau A*- C. Pasiodd 98% o ymgeiswyr Ceredigion eu cyrsiau Safon Uwch.
|
Ceredigion |
Cymru
|
Gradd A* - A |
26.8% |
26.3% |
Gradd A* - B |
56.7% |
n/a |
Gradd A* - C |
77.1% |
n/a |
Gradd A* - E |
97.8% |
97.4% |
O gymharu â llynedd, ennillwyd gan ymgeiswyr Ceredigion 6% yn fwy o raddau A*-A. Mae’r nifer o ymgeiswyr sydd wedi derbyn graddau A*-A, a graddau A*-E yn uwch yng Ngheredigion na’r gyfartaledd ledled Cymru.
16/08/2018