Daeth myfyrwyr trin gwallt o bob cwr o'r sir i Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) ar ddydd Mercher, 02 Mai, i ddangos eu sgiliau.

Roedd naw myfyriwr, ynghyd â'u modelau, yn cystadlu ar gyfer y brig yn Rhagbrofion Cystadleuaeth Gwallt a Harddwch Eisteddfod yr Urdd. Roedd ansawdd yr holl gystadleuwyr o’r radd flaenaf, ond mi wnaeth myfyrwyr trin gwallt HCT yn eithriadol o dda am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Yn y Gystadleuaeth Gwallt Lefel 1 dan 19 oed, llwyddodd HCT i gael dwy o’u dysgwyr i orffen yn y tri uchaf. Daeth Eleri Roberts, disgybl o Ysgol Penglais, sy'n astudio Trin Gwallt yn HCT, yn ail, yn ogystal â Cayla Williams, hefyd o Ysgol Penglais, ac yn astudio Trin Gwallt yn HCT, yn drydydd.

Yng nghystadleuaeth Lefel 3 dan 25 oed, daeth Jess Dancy yn gyntaf a Briony Hancock yn ail, y ddwy ohonynt yn hyfforddi fel Prentisiaid Trin Gwallt yn HCT.

Dywedodd Nerys Morgan, Dirprwy Reolwr HCT: “Rydym yn falch iawn o'r myfyrwyr a'u cyflawniadau. Maent wedi gweithio'n galed iawn ar eu cynlluniau dros y misoedd diwethaf, ac mae'n wych gweld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod fel rhan o'r cystadlaethau hyn. Pob lwc iddynt oll yng nghystadlaethau cenedlaethol yr Urdd y mis nesaf!”

Bydd pob un o'r myfyrwyr yn mynd ymlaen i gynrychioli Ceredigion yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanfair-ym-Muallt ddydd Gwener, 01 Mehefin.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu, “Mae gweld y myfyrwyr yma a’u modelau yn datblygu blwyddyn ar ôl blwyddyn yn galonogol a rydym yn falch iawn o weld eu talent a’u gwaith caled yn cael ei arddangos trwy’r gystadleuaeth yma. Mae HCT yn le pwysig iawn i bobl ifanc i gael y profiadau yma i ddysgu, i gystadlu ac i ragori.”

Mae Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ar gyfer pobl o bob oed, gan gynnwys Trin Gwallt, Gofal Plant, Gweinyddiaeth Busnes, Technoleg Gwybodaeth, Gwaith Saer, Plymio, Trydan, Gof, Amaethyddiaeth, Mecaneg Modur a Weldio. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â HCT ar 01970 633040. Gallwch hefyd ddod o hyd i HCT ar Facebook, /HyfforddiantCeredigion, neu ewch i'r wefan.

 

 

Lluniau:
• Lefel 1 dan 19 oed: 2il Eleri Roberts gyda’r model Poppy Styles.
• Lefel 1 dan 19 oed: 3ydd Cayla Williams gyda’r model Charlotte Roberts.
• Lefel 3 dan 25 oed: 1af Jess Dancy gyda’r model Elen Mai Morgans.
• Lefel 3 dan 25 oed: 2il Briony Hancock gyda’r model Joriah Farmery.

16/05/2018