Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddarparu cyfleoedd teithio cynaliadwy a fforddiadwy ar fws.

Mae proses gaffael ar y gweill ar hyn o bryd i sicrhau gofynion statudol o ran cludiant i ddysgwyr yn ogystal â chyfleoedd i'r cyhoedd deithio ar fws ar nifer o lwybrau yng Ngheredigion.

Gyda’r trefniadau presennol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022, mae tendrau a dderbyniwyd ar gyfer llwybrau bysiau lleol yn cael eu gwerthuso. Mae ffocws arbennig ar eu fforddiadwyedd gan ystyried y cynnydd sylweddol mewn prisiau tendro.

Yn anffodus, ni dderbyniwyd tendr ar gyfer gweithredu gwasanaeth 585, Aberystwyth-Tregaron-Llanbedr Pont Steffan. Oni bai y gellir negodi contract munud olaf, ni fydd y teithiau nad ydynt yn deithiau ysgol ar y llwybr hwn yn gweithredu o fis Ionawr 2023.

Bydd cyfleoedd i’r cyhoedd deithio ar rai gwasanaethau teithio i ddysgwyr yn parhau o fis Ionawr 2023 ymlaen. Mae hyn oherwydd natur integredig y rhwydwaith bysiau yng Ngheredigion.

Meddai’r Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Trafnidiaeth, “Mae’n gyfnod anodd iawn i’r diwydiant bysiau gyda chostau cynyddol, diffyg gyrwyr Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus cymwys, ansicrwydd ynghylch trefniadau ariannu yn y dyfodol a niferoedd y teithwyr yn isel. Mae nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers nifer o flynyddoedd. Mae hyn wedi gwaethygu gan pandemig COVID-19 sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y swm o arian cyhoeddus sydd ei angen i roi cymhorthdal i wasanaethau bysiau lleol ar gyllidebau cyllid cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau.

Bydd y Cyngor yn parhau yn ei ymdrechion i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys gweithredwyr bysiau lleol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i ddarparu cyfleoedd teithio cynaliadwy a fforddiadwy ar fysiau. Fodd bynnag, yn y tymor byr o leiaf, mae’n rhaid cydnabod bod y rhagolygon yn heriol iawn.”

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu maes o law tra bod swyddogion yn canolbwyntio eu sylw ar ddarparu'r lefel orau bosibl o gyfleoedd teithio.

18/11/2022