Mae Tîm Creadigol newydd wedi cael eu hapwyntio yn Theatr Felinfach. Bydd aelodau newydd y tîm - Lowri Angharad Briddon a Sioned Hâf Thomas yn chwarae rôl ganolog ym mhroses greadigol y Theatr.

Yn ystod mis Awst cynhaliwyd cyfweliadau i apwyntio Uwch Swyddog Creadigol i arwain y Tîm Creadigol yn Theatr Felinfach. Braf yw nodi i Lowri Angharad Briddon gael ei phenodi i’r swydd. Mae Lowri wedi gweithio yn rhan o’r Tîm Creadigol ers dwy flynedd bellach pan ymunodd fel Swyddog Creadigol ar gyfer Dawns a Theatr ym mis Awst 2016. Mae hi wedi cael cyfnod prysur iawn yn sefydlu nifer o weithgareddau newydd megis y Clwb Clocsio, Gwerin-ffit a’r Ysgol Berfformio.

Cynhaliwyd cyfweliadau pellach yn fwy diweddar, y tro hyn i benodi Swyddog Creadigol ar gyfer Dawns a Theatr a braf iawn yw cael nodi i Sioned Hâf Thomas gael ei phenodi i’r swydd. Mae Sioned wedi gweithio gyda ni yn Theatr Felinfach ar brosiectau amrywiol am gyfnodau penodol ers nifer o flynyddoedd. Hi hefyd sy’n chwarae cymeriad Tani Tychrug yn y pantomeim blynyddol. Mae’r dyfodol yn edrych yn gyffrous gyda thîm newydd yn eu lle yn barod i arwain ar y gwaith cyfranogi.

Dywedodd yr aelod Cabinet a chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, y Cynghorydd Catherine Hughes, “Mae’r gan y Theatr draddodiad balch o greu cynyrchiadau creadigol ac unigryw. Does gen i ddim amheuaeth y bydd Lowri a Sioned yn adeiladu ar y traddodiad gwerthfawr yma ac yn creu pob math o gynyrchiadau cyffrous ac arloesol yn y dyfodol.”

Cafodd Lowri a Sioned y cyfle i gydweithio ar brosiect cyffrous ddiwedd mis Medi yn creu cyfanwaith dawns gydag ysgolion de’r sir. Fe’i perfformiwyd yn nhref Aberteifi ar 29 Medi fel rhan o Ŵyl y Cynhaeaf yn y dref. Gyda Panto Nadolig blynyddol enwog y Theatr yn agosáu, mae cyfnod prysur yn wynebu Lowri a Sioned.

03/10/2018