Ar 8 Tachwedd 2019, cynrychiolwyd pobl ifanc Ceredigion gan Aelod Seneddol Ieuenctid (ASI) Thomas Kendall a Dirprwy ASI Huw Jones yn nhrafodaeth flynyddol Senedd Ieuenctid Prydain. Cadeiriwyd y drafodaeth gan Syr Lindsay Hoyle a’r Dirprwy Siaradwr, Dame Eleanor Fulton Laing.

Mae Thomas a Huw yn aelodau o Gyngor Ieuenctid Ceredigion, gyda Thomas yn cynrychioli Coleg Ceredigion a Huw yn cynrychioli CFfI Ceredigion ag Ysgol Gyfun Aberaeron.

Roedd dros 200 o bobl ifanc ledled y DU wedi ymgasglu yn Senedd y Tŷ’r Cyffredin.

Yn dilyn ymgyrch ‘Make Your Mark’ a gynhaliwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, a welodd dros 2000 o bobl ifanc yn pleidleisio, trafodwyd nifer o faterion pwysig gan gynnwys Amddiffyn yr Amgylchedd, Cwricwlwm Gydol Oes, Rhoi’r Diwedd i Droseddau Cyllyll, Iechyd Meddwl a Thlodi Plant.

Penderfynodd Aelodau’r Senedd Ieuenctid mai Amddiffyn yr Amgylchedd oedd pwnc blaenoriaeth Prydain, a Throseddau Cyllyll ddylai fod yr ymgyrch genedlaethol ddatganoledig.

Bydd Thomas a Huw nawr yn trefnu i gwrdd ag AS Ceredigion yn dilyn yr etholiad cyffredinol, i drafod ble gellir gweithredu newidiadau yn deillio o bleidlais Senedd Ieuenctid Prydain yn 2019, er mwyn gwella safon byw pobl ifanc lleol, yma yng Ngheredigion. Bydd Thomas a Huw hefyd yn cyflwyno eu profiadau o’r Tŷ Cyffredin i’w cyfoedion yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Ieuenctid.

Dywedodd Thomas Kendall, ASI Ceredigion, "Roedd yn anrhydedd a braint fawr i gynrychioli pobl ifanc Ceredigion eleni yn Nhŷ'r Cyffredin yn nadl flynyddol Senedd Ieuenctid Prydain. Clywsom lawer o areithiau ysbrydoledig gan bobl ifanc ledled Prydain, wrth iddynt hyrwyddo materion sy'n bwysig iddyn nhw a'u hetholaethau. Mae Huw a finnau yn edrych ymlaen at gwrdd a gweithio gydag AS Ceredigion er mwyn gweld sut y gallwn ddechrau cyflawni'r nodau hyn.”

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i fynegi eu lleisiau a chyfleoedd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol. Mae Thomas a Huw yn aelodau brwdfrydig o Gyngor Ieuenctid Ceredigion a gafwyd eu hethol i gynrychioli pobl ifanc Ceredigion yn y digwyddiad yn Llundain eleni. Byddwn yn cefnogi Thomas a Huw gyda’u hymgyrchoedd lleol er lles pobl ifanc ar draws y sir.”

19/12/2019