Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymuno â'r genedl i anfon cydymdeimlad dwysaf at Ei Mawrhydi y Frenhines a'r Teulu Brenhinol yn dilyn marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.

Mae’r Cynghorydd Gareth Davies, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion yn ysgrifennu at Ei Mawrhydi y Frenhines a'r Teulu Brenhinol yn mynegi tristwch mawr y Sir.

Bydd y Cynghorydd Gareth Davies yn cydymdeimlo'n ddwys ar ran aelodau, staff a thrigolion yn dilyn y cyhoeddiad heddiw o Balas Buckingham.

Fel arwydd o barch, mae baneri yn chwifio ar hanner mast yng Nghanolfan Alun R.Edwards, Aberystwyth; Canolfan Rheidol, Aberystwyth; Neuadd Cyngor Ceredigion, Aberaeron; a Neuadd y Sir, Aberaeron.

Mae llyfr ar-lein o gydymdeimlad bellach ar gael i unrhyw un sy'n dymuno mynegi eu cydymdeimlad: Llyfr o Gydymdeimlad: Dug Caeredin

 

09/04/2021