Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwelwyd trofeydd o weithgaredd ar ac o gwmpas Warchodfa Natur Leol Pen Dinas. Mae aelodau o dîm Hawliau Tramwy Ceredigion, contractwyr a llu o wirfoddolwyr wedi cynnal gwaith i wella llwybrau cerdded gyda diolch i grant gan Gynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru).

Gan fod y rhan fwyaf o'r gwaith wedi cael ei wneud, roedd hi'n bryd nodi'r achlysur a diolch i bawb a fu’n ymwneud â chyflwyno'r prosiect. Roedd grŵp mawr wedi'i ymgynnull yn y caffi yn yr Hwb ym Mhenparcau ar ddydd Iau 26 Medi, lle roedd arddangosfa o luniau o'r prosiect wedi’i harddangos. Cafodd pawb amser i fwynhau paned o de neu goffi cyn mynd i archwilio’r llwybr newydd fyny Pen Dinas.  

Dywedodd Eifion Jones, Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus, “O ystyried pa mor ansicr y bu'r tywydd yr wythnos yn arwain i fyny i’r daith gymunedol, gyda glaw trwm a’r gwyntoedd cryfion, nid oedd unrhyw gynllun i'r daith. Y syniad oedd dilyn y llwybr canol, ac yna mynd am dro o amgylch rhan o'r ‘Llwybr Hen Domen’, ac yna mentro ar y llwybr newydd sy’n addas ar gyfer cadair olwyn, sydd bellach yn arwain oddi ar Lwybr Ystwyth, cyn i ni ddychwelyd yn ôl i Benparcau ar yr hen lwybr gwaelod.

Er gwaethaf cymylau isel a thywyll ar law man, roedd ffenestr berffaith o awr sych i ganiatáu’r grŵp gwblhau’r gylchdaith gyfan gyda digon o amser ar gyfer tynnu lluniau o'r golygfeydd hyfryd ac i gyfnewid hanesion a gwybodaeth am y safle."

Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: “Mae hyn yn gam yn agosach i gyrraedd un o'n prif nodau yn y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, sef cynnig y mynediad lleiaf cyfyngol i'n harfordir a'n cefn gwlad brydferth yng Ngheredigion.”

Mae caffi’r Hwb ym Mhenparcau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn cynnig cyfleusterau i unrhyw un sydd am fentro i Pen Dinas. Mae mynediad i'r rhyngrwyd a gliniaduron defnydd cyhoeddus ar gyfer gwirio mapiau o lwybrau a hyrwyddir ar dudalen 'Crwydro a Farchogi' Cyngor Sir Ceredigion sy'n cynnwys y llwybrau newydd ar draws Pen Dinas. 

Gellir gweld y dudalen ‘Crwydro a Farchogi’ drwy ddilyn y linc yma: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/yr-arfordir-a-chefn-gwlad/archwilio-ceredigion/crwydro-a-farchogi/

Gallwch hefyd gofrestru i fod yn un o'r 1000 o gerddwyr newydd Pen Dinas y mae Grŵp Cerdded Penparcau yn anelu at erbyn diwedd 2020.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Eifion Jones drwy ffonio’r Canolfan Cyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570 881 neu Eifion.Jones@ceredigion.gov.uk.

 

10/10/2019