Mae’n amser cyffrous iawn yn Theatr Felinfach wrth i aelodau brwdfrydig yr Ysgol Berfformio baratoi i gyflwyno ei sioe gerdd gyntaf ‘Syrffio ar y Sgwâr!’. Cynhelir y perfformiad am 7yh ar nos Sadwrn ,14 Gorffennaf.

Ysgrifennwyd y sioe yn wreiddiol gan Gareth Ioan, Peter Ebbsworth ac Anwen James a’r gerddoriaeth gan Hector MacDonald o Batagonia ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Llanbedr Pont Steffan a’r fro ym 1999.

Dewch i gwrdd â llond llwyfan o gymeriadau amrywiol a lliwgar gan gynnwys Zara Zappa, perchennog siop gemau cyfrifiadurol Y Sgrîn Swynol a Llew Llyfre perchennog siop Llyfre Lledrithiol yn ogystal â Strab a Haden! Mae’n frwydr rhwng technoleg a llyfrau; pa weithgaredd fydd yn ennill y dydd? Dewch, mynnwch eich tocyn nawr i ganfod yr ateb!

Sefydlwyd yr Ysgol Berfformio gan Ffion Medi Lewis-Hughes a Lowri Angharad Briddon yn Ionawr 2017 ac mae bellach wedi datblygu yn gwmni niferus. Mae’n gyfle gwych i fwynhau a phrofi sgiliau theatr drwy gyfrwng y Gymraeg ac i gwrdd â ffrindiau newydd sydd â’r un angerdd am berfformio. Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i ymuno â’r Ysgol Berfformio ym mis Medi – cysylltwch â lowri.briddon@ceredigion.gov.uk neu sioned.thomas@ceredigion.gov.uk ar 01570 470 697.

Tocynnau £8/£7/£6. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ewch ar-lein i www.theatrfelinfach.cymru.

04/07/2018