Mae strategaeth iaith newydd i Geredigion wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y cyfnod 2018-2023. Cymeradwywyd y strategaeth gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion mewn cyfarfod ar 25 Medi 2018.

Mae’r Strategaeth newydd yn diweddaru ac yn datblygu ar ei rhagflaenydd. Cydnabyddir bod cynaliadwyedd yr iaith Gymraeg yn ddibynnol ar y broses o gryfhau cymunedau Cymraeg trwy ddarparu digon o gyfleoedd addysgol, diwylliannol a chymdeithasol i ddefnyddio’r iaith yn ddyddiol.

Er mwyn cynnal cymunedau Cymreig hyfyw lle mae’r Gymraeg yn iaith gyfathrebu naturiol yng Ngheredigion, mae’r Strategaeth wedi adnabod tri maes allweddol ar gyfer blaenoriaethu; sef i gynyddu sgiliau iaith trigolion Ceredigion, i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ac i sicrhau amodau ffafriol sy’n galluogi’r Gymraeg i ffynnu yng Ngheredigion.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac aelod y Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, “Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o galon cymunedau Ceredigion, ond mae cymdogaethau’n newid, ac mae’r newid hwn yn cael dylanwad ar yr iaith a’r diwylliant.
Mae’r strategaeth newydd yn gyfle newydd i ni adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud, ac i sicrhau bod modd gweld a chlywed y Gymraeg bod dydd yn iaith gyfathrebu naturiol yn ein cymdogaethau.”

Mae’r Strategaeth hon yn gosod sut bydd y Cyngor yn mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn ehangach o fewn yr ardal leol, a hynny drwy gyd-weithio gyda sefydliadau sy’n aelodau o Fforwm Iaith Dyfodol Dwyieithog Ceredigion. Mae’r Strategaeth yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

Mae cymeradwyo’r strategaeth newydd yn cefnogi’r Cyngor i wireddu’r flaenoriaeth gorfforaethol o fuddsoddi yn nyfodol pobl ac yn sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â dyletswydd statudol yn unol ȃ gofynion Safonau’r Gymraeg.

Mae’r Strategaeth ar gael i’w ddarllen yma: http://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisïau/iaith-gymraeg/hyrwyddo-a-hwyluso-r-iaith-gymraeg/ 

12/10/2018