Mae cael digon o dir masnachol a safleoedd busnes ar gyfer datblygu yn rhan hanfodol o strategaeth economaidd Canolbarth Cymru, yn ôl Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru.

Mae gwaith ar droed i nodi ac asesu safleoedd ac adeiladau cyflogi ar draws Powys a Cheredigion i sicrhau bod digon o seilwaith busnes i’r 21ain ganrif i ategu twf economaidd i’r dyfodol.

Erbyn hyn mae’r Bartneriaeth wedi penodi ymgynghorwyr BE Group Ltd sy’n cynnwys tri endid ar wahân – BE Group, Hatch Regenris a Per Consulting i lunio Cynllun Gweithredu ac Asesiad llawn o Anghenion o ran Safleoedd ac Adeiladau Cyflogi i ardal Canolbarth Cymru a fydd yn para tan ddiwedd Chwefror 2020. Y nod yw sicrhau cyflenwad a lleoliad tir cyflogi a safleoedd masnachol i hwyluso twf economaidd yng Nghanolbarth Cymru tan 2040. Bydd yn cynnig agwedd strategol dros dymor byr, tymor canolig a thymor hir a nodi atebion arloesol i ategu’r farchnad eiddo masnachol ac ysgogi buddsoddiad yn y sector preifat.

Bydd yr astudiaeth hefyd yn helpu i ddatblygu achos busnes strategol i fuddsoddi yn y safleoedd masnachol a’r farchnad eiddo fel rhan o weledigaeth ehangach ar gyfer twf economaidd rhanbarthol. Comisiynwyd gan Gyngor Sir Powys ar ran yr ardal, gyda Grŵp Llywio’r Prosiect sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gynghorai Sir Powys a Cheredigion, Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r Bartneriaeth yn awyddus i annog ymgysylltu brwd rhwng busnesau lleol a’r ymgynghorwyr i lunio cynigion i’r dyfodol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidaeth Ken Skates: “Mae’n braf gweld Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r gwaith pwysig hwn a fydd yn sicrhau portffolio o safleoedd ac adeiladau modern i helpu i ddatblygu busnesau nawr ac yn y dyfodol. Bydd hyn yn hanfodol i wella perfformiad economaidd Canolbarth Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r astudiaeth a fydd yn ganolog wrth wneud gwaith pellach ar gynigion buddsoddi dros y blynyddoedd nesaf.”

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Arweinyddion Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a chynghorau sir Ceredigion a Phowys, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn a’r Cynghorydd Rosemarie Harris: “Mae’n bleser gan Bartneriaeth Canolbarth Cymru fod yn cydweithio ar yr astudiaeth bwysig hon i’r ardal. Wrth wraidd datgloi twf economaidd ac ysgogi buddsoddiad yn y sector preifat yng Nghanolbarth Cymru yw sicrhau’r cyflenwad cywir a lleoliad tir cyflogi a safleoedd masnachol. Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau’r astudiaeth a fydd yn dangos y dystiolaeth sydd ei angen wrth wneud gwaith pellach ar gynigion strategol priodol ar fuddsoddi yn yr ardal dros y blynyddoedd nesaf.”

17/10/2019