Bydd safle’r cyn gartref preswyl Bodlondeb ym Mhenparcau, Aberystwyth yn cael ei osod ar werth gan flaenoriaethu prynwyr sydd yn bwriadu darparu cartref gofal nyrsio i bobl Eiddil eu Meddwl (EMI) / Dementia. Mae’r datblygiad yn dilyn penderfyniad Cabinet a wnaed ar 6 Mawrth 2018.

Bydd y safle yn cael ei osod ar y farchnad agored gan roi’r flaenoriaeth gyntaf i brynu i ddarparwyr cartref gofal nyrsio i bobl Eiddil eu Meddwl (EMI) / Dementia. Bydd ail flaenoriaeth yn cael ei roi i ddarparwyr gofal preswyl Dementia. Caiff y drydedd flaenoriaeth ei gynnig i sefydliadau sydd yn bwriadu darparu llety i bobl ifanc sydd angen tai cymdeithasol. Ystyrir cynigion arall os na fydd darparwyr y defnyddiau a flaenoriaethwyd yn prynu’r safle.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol, “Gan werthu safle Bodlondeb, mae’r Cabinet wedi edrych i ddefnyddio gwerthu’r safle fel cyfle i ganfod prynwr sy’n bwriadu defnyddio’r safle mewn ffordd a fydd o fudd i Geredigion. Mae angen go iawn ar gyfer darpariaeth dementia yn ein sir, a dw i’n gobeithio y byddwn yn canfod prynwr sy’n gallu helpu i gwrdd â rhan o’r angen hynny.”

Penderfynodd y Cabinet hefyd y bydd yr offer ym Modlondeb yn cael ei ddosbarthu ymysg cartrefi preswyl arall y Cyngor ac y bydd arian o werthu Bodlondeb yn cael ei neilltuo er mwyn cefnogi cynnal cartrefi gofal y Cyngor.

07/03/2018