Wrth i dymor newydd gychwyn yn Theatr Felinfach mae’n gyfle i ddathlu fod diwylliant yn tanio eto wrth i’r theatr gyffroi i ddatgelu rhaglen amrywiol sydd ar y gweill dros fisoedd yr Hydref a Gaeaf. Peidiwch â digalonni fod y nosweithiau yn dechrau tywyllu oherwydd mae yna gyfle i chi fwynhau ac i gynhesu eich enaid gyda bach o gerddoriaeth, comedi a drama heb anghofio’r Panto ‘dolig blynyddol!

Mae mis Tachwedd yn llawn dop gan gychwyn gyda pherfformiad drama sydd wedi cydio yn nychymyg cenedlaethol o ddarllenwyr Cymraeg sef ‘Un Nos Ola Leuad’ gyda Theatr Bara Caws ar 1 Tachwedd. I ddilyn ar 3 Tachwedd mi fydd y theatr yn croesawu Opera Canolbarth Cymru gyda noson o gerddoriaeth hudol gan gynnwys perfformiad cyfrwng Saesneg o’r stori tylwyth teg clasurol ‘Puss In Boots (El Gato Con Batos)’ gan Montsvalvatge. 

Noson o gerddoriaeth werin fydd ar 11 Tachwedd yng nghwmni ‘Cynefin’ (gyda band) sef project gan Owen Shiers, un o frodion Ddyffryn Cletwr sy’n rhoi llais i dreftadaeth gyfoethog Ceredigion sydd eisoes wedi mynd yn angof.

Pa ffordd well i ddod ac arlwy mis Tachwedd i ben ‘na mewn noson llawn chwerthin! Mi fydd noson gomedi “Ceredigion a Cheredigesau”’ ar 19 Tachwedd gyda Noel James o Gwmtawe sy’n dychwelyd i’r theatr gyda deunydd newydd sbon ac adloniant o’r radd ucha’! Mi fydd Steffan Evans o Eglwyswrw yn helpu Noel mas gyda’r difyrrwch sy’n gomedïwr gyda chipolwg unigryw ar y byd.

Mae tocynnau ar gyfer y perfformiadau uchod ar gael i archebu nawr ar-lein neu trwy’r swyddfa docynnau. Mi fydd y Panto Nadolig blynyddol yn cael ei gynnal rhwng 10 - 17 Rhagfyr flwyddyn yma gyda’r tocynnau yn mynd ar werth i’r cyhoedd ar 21 Hydref.

Mae hefyd cyfle i chi ddod yn Gyfaill i Theatr Felinfach lle mae modd i chi dderbyn newyddion cyson, archebu cynnar ar gyfer rhai perfformiadau a llawer mwy. Gallwch hefyd wirfoddoli yn y theatr – cyfle gwych i brofi bod yn rhan o fyd y theatr.

Yn ogystal â hyn mas sesiynau cyfranogol wedi ail-gychwyn yn y theatr. Ar ddyddiau Mercher mae modd i unigolion 50 ac i fyny ddod i gymdeithasu rhwng 1:30yp - 3:00yp yn Hwyl a Hamdden. Cyfle hefyd i bobol ifanc 7-18 oed i fwynhau a dysgu sgiliau perfformio newydd yn yr Ysgol Berfformio ar ôl ysgol ar ddyddiau iau rhwng 4:30yp - 6:45yh. Ar foreau Gwener am 10:00yb mi fydd sesiwn Tic Toc ar gyfer plant 0-3 oed a’i rhieni/gwarcheidwaid ddod i ganu, dawnsio a storia.

Am ragor o wybodaeth ac am docynnau cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01570 470697 neu theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk rhwng dydd Llun i ddydd Gwener o 9:30 tan 4:30pm.

Gallwch cadw fyny â Theatr Felinfach ar ei sianelu cymdeithasol Facebook, Youtube, Trydar ac Instagram ar @TheatrFelinfach

 

07/10/2022