Eleni, mae Rhaglen Haf Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn darparu amrywiaeth lawn o weithgareddau dros bedair wythnos yn ystod y gwyliau’r haf. Mae 19 o wahanol brosiectau, gweithgareddau, gweithdai a digwyddiadau wedi’u cynllunio ar gyfer bobl ifanc rhwng 11-25 oed ar draws y sir.

Bydd gweithgareddau eleni yn canolbwyntio ar bynciau megis cyflogadwyedd ac uwch-sgilio, iechyd a lles, cyfranogiad, chwaraeon a hamdden a'r amgylchedd. Caiff pobl ifanc y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a rhai sydd ganddynt eisoes megis hunan-barch, hyder, cyfathrebu a datrys problemau, pob un mewn amgylchedd anffurfiol, llawn hwyl lle byddant yn gallu cwrdd â phobl newydd, cael achrediadau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Bydd gweithgareddau eleni yn cynnwys gwersyll haf, preswyl antur, beicio mynydd, teithiau, gweithdai blasu a mwy.

Gethin Jones yw Prif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Dywedodd, “Mae’r rhaglen haf wedi bod yn llwyddiant mawr dros y blynyddoedd. Mae’n holl bwysig i ni ein bod yn parhau i gynnig cyfleoedd wedi eu targedu a mynediad agored i bobl ifanc yn ystod gwyliau’r haf, yn ogystal ag yn ystod y tymor ysgol, fel ein bod yn rhoi cymorth ac yn ymgysylltu gyda’r bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwych i bobl ifanc ar draws y sir i gymryd rhan ac yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr a phrofiadau addysgu iddynt i adeiladu ar sgiliau a datblygu hyder a hunan-barch."

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes & Hamdden, “Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn darparu gwasanaeth o safon sydd yn amlwg o fudd i ein pobl ifanc sydd am fwynhau digwyddiadau dros yr haf. Mae’r digwyddiadau yn gyfleoedd euraidd nid yn unig i fwynhau, ond hefyd i ddatblygu yn addysgiadol, yn bersonol ac yn gymdeithasol.”

Er mwyn darganfod mwy am hyn y mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn ei gynnig, ewch i’w gwefan, tudalennau cyfryngau cymdeithasol @GICeredigionYS neu cysylltwch ar 01545572352 neu youth@ceredigion.gov.uk.

16/07/2019