Yr haf hwn, derbyniwr Cyngor Sir Ceredigion gyllid o €24,919 gan raglen Erasmus+ y Comisiwn Ewropeaidd i drefnu rhaglen gyfnewid ieuenctid i bobl ifanc o Geredigion a Romania.

Roedd 24 o bobl ifanc Cymraeg a Rwmania yn rhan o'r Gyfnewidfa Ieuenctid. Ymwelodd 12 pobl ifanc o Geredigion â Oradea a Cluj Napoca yn Rwmania ym mis Gorffennaf, ac ymwelodd 12 bobl ifanc o Rwmania â Cheredigion yn fis Awst.

Prif nod y prosiect oedd rhoi cyfle i bobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau i dderbyn profiadau rhyngwladol, gyda'r gobaith y bydd yn gwella eu lles, eu hunan-barch, yn ogystal â chynyddu eu hymwybyddiaeth ryngddiwylliannol.

Yn ystod y cyfnewid, ymgymerwyd y bobl ifanc â chymysgedd o weithgareddau yng Ngheredigion a Rwmania. Roedd hyn yn cynnwys gwaith adeiladu tîm, trafodaethau a dadleuon yn ogystal â gwahanol weithgareddau yn yr awyr agored yn y ddwy wlad. Nod yr holl weithgareddau hyn oedd gwella eu hyder a'u sgiliau cymdeithasol.

Yn cefnogi’r gyfnewidfa ieuenctid yng Ngheredigion, cyfrannodd y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth tuag at lety, bwyd a’r defnydd o’u cyfleusterau er mwyn cynnal gweithdai.

Meddai Jamie Jones – Mead, Rheolwr Prosiect y Gyfnewidfa Ieuenctid Prosiect Erasmus+, "Cafodd y profiad effaith enfawr ar y bobl ifanc. I lawer, dyma'r tro cyntaf iddynt erioed osod eu traed y tu allan i'w gwledydd cartref. Cawsant gipolwg ar ddiwylliant ac ardal leol ei gilydd gan ennill sgiliau gwerthfawr drwy weithdai oedd yn eu galluogi i wella eu hyder a'u sgiliau trafod.”

Catherine Hughes yw’r aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Plant a Diwylliant. Dywedodd, “Mae’n wych i glywed am y profiad anhygoel yma a roddwydd i rai o bobl ifanc ar draws Ceredigion a’r budd maent wedi cael trwy ddod i nabod pobl ifanc eraill o draws Ewrop. Rwy'n gobeithio eu bod i gyd wedi elwa o'r profiad.”

23/09/2019