Mae City Energy a Chyngor Sir Ceredigion wedi ennill gwobr gydnabyddedig drwy Gymru am fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Ngheredigion gyda thrigolion lleol.

Gan weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth, sicrhaodd y cwmni City Energy o Gaerdydd a Chyngor Sir Ceredigion fanteision sylweddol i 137 o drigolion agored i niwed yn yr ardal drwy osod mesurau effeithlon o ran ynni yn eu cartrefi y llynedd. Mae llwyddiant y cynllun wedi'i gydnabod yng Ngwobrau Rhagoriaeth ym maes Caffael Cyhoeddus GO Cymru, a dyfarnwyd y wobr 'Cyflawniad Contract Gorau' i’r ddau sefydliad.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai, a Chyswllt Cwsmeriaid. Dywedodd: “Mae'n newyddion gwych ein bod wedi derbyn cydnabyddiaeth am ein prosiect Caron Cynnes - mae wedi galluogi cymaint o'n preswylwyr i wella eu systemau gwresogi. Gall y frwydr i gadw cartrefi yn gynnes gael effaith niweidiol ar iechyd a lles unigolyn, felly mae'r prosiect hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar y preswylwyr sydd wedi derbyn cymorth. Llongyfarchiadau i dîm y Gwasanaethau Tai am eu gwaith caled a'u hymroddiad wrth redeg y prosiect. "

Roedd Cynllun Caron Cynnes yn targedu trigolion agored i niwed a'u teuluoedd sy'n byw mewn cartrefi aneffeithlon o ran ynni ac roedd yn darparu systemau gwres canolog a mesurau inswleiddio am y tro cyntaf. Yr ardaloedd targed oedd cymunedau gwledig lle nad oedd y rhwydwaith nwy yn eu cyrraedd, gan adael teuluoedd yn dibynnu ar fathau drutach o danwydd, e.e. tanwydd solet ac olew i wresogi eu cartrefi. Mae hyn wedi darparu cartrefi cynnes a chyfforddus gyda chostau tanwydd is i aelwydydd mewn tlodi tanwydd neu ar incwm isel ac yn agored i effeithiau'r oerfel.

Neil Llewellyn yw Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau City Energy. Dywedodd: “Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae City Energy a Chyngor Sir Ceredigion wedi'i gyflawni i helpu i leihau tlodi tanwydd yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar i drigolion Ceredigion am ymddiried ynom i wneud eu cartrefi'n gynhesach a’u bywydau’n well."

Ariannwyd y cynllun gan Gronfa Cartrefi Cynnes gwerth £150m y Grid Cenedlaethol ac mae wedi derbyn nifer fawr o geisiadau gan drigolion lleol. Mae dros 82% o aelwydydd Ceredigion wedi'u lleoli oddi ar y prif rwydwaith nwy, sy'n golygu bod yn rhaid i'r trigolion ddibynnu ar danwyddau drutach nad ydynt yn cael eu rheoleiddio. Mae hyn wedi cyfrannu at nifer yr aelwydydd yn y sir yr ystyrir eu bod mewn 'tlodi tanwydd'. Mae cyllid ar gyfer cam 2 y prosiect bellach wedi'i sicrhau, a bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i osod 120 o systemau gwres canolog ychwanegol am y tro cyntaf mewn eiddo aneffeithlon o ran ynni yn y sir; pympiau gwres ffynhonnell aer a systemau nwy LPG fydd y rhain. Bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais am y prosiect ar gael ar wefan y Cyngor yn fuan. Gall trigolion Ceredigion barhau i dderbyn cymorth a chyngor ar sut i wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni drwy ymweld â'r adran 'Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni' ar wefan y cyngor.

Jeremy Nesbitt yw Rheolwr Gyfarwyddwr Affordable Warmth Solutions sy’n gweinyddu’r gronfa ar ran y Grid Cenedlaethol. Dywedodd: “Rydym yn hynod gyffrous ynglŷn â’r buddsoddiad hwn gan y Grid Cenedlaethol ac rydym wrth ein bodd bod y cynllun wedi cael ei gydnabod gyda'r wobr hon. Mae datrys y materion sy'n gysylltiedig â Thlodi Tanwydd yn parhau i herio llawer o'n rhanddeiliaid ac mae'r adborth yr ydym wedi’i dderbyn eisoes yn dangos sut y bydd y Gronfa Cartrefi Cynnes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o gartrefi ledled Prydain Fawr."

Mae’r Prosiect Cartrefi Cynnes (Caron Cynnes) ar ran City Energy Network hefyd wedi cyrraedd rhestr fer categori ‘Prosiect Ynni Preswyl y Flwyddyn’ Gwobrau Ynni 2021 a fydd yn cael ei gynnal ym mis Medi 2021.

27/05/2021