Er mwyn nodi diwrnod VJ, bu Mr Walford Hughes MBE yn sgwrsio gyda Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

Fe fu nhw’n trafod yr amser a dreuliodd Mr Walford Hughes MBE yn Burma yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd y cyfarfod ar gael i’w weld yfory, 15 Awst ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog – Twitter @fmwales a Facebook /LlywodraethCymru.

Fe gymerodd Mr Walford Hughes MBE - sydd bellach yn byw yng Nghartref Tregerddan - ran mewn nifer o ymgyrchoedd yn yr Ail Ryfel Byd gan wasanaethu yn y ‘Fyddin Anghofiedig’ yn Burma yn y Dwyrain Pell. Ni anghofiodd Mr Hughes yr hyn a wynebodd ef a'i gyd-filwyr yn Burma, a daeth yn Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymdeithas Seren Burma ar ôl y rhyfel. Mae'r gymdeithas yn hyrwyddo'r cyfeillgarwch a brofwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn Burma ac yn cefnogi cyn-filwyr yr ymgyrch a'u gweddwon. Dyfarnwyd yr MBE i Mr Hughes yn ddiweddarach am ei waith cydwybodol a diwyd i'r gymdeithas.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge: “Mae hwn yn anrhydedd mawr i Mr Walford Hughes MBE, ac rwy’n falch iawn o glywed fod ei gyfraniad yn cael ei gydnabod yn y modd hwn. Mae Mr Hughes yn cynrychioli popeth sy’n dda o ran y cyfeillgarwch sydd drwy deulu’r lluoedd arfog, ac ni wnaeth erioed anghofio’r rhai a dalodd yr aberth eithaf, ac roedd bob amser yn sicrhau, pan oedd hynny’n bosibl, bod y rhai a ddaeth yn ôl yn derbyn y cymorth yr oeddent yn ei haeddu. Mae yn awr yn mwynhau hwyrddydd ei oes yng nghysur Cartref Tregerddan lle y gofelir amdano gyda’r urddas y mae’n ei haeddu.”

Ym mis Ionawr eleni, dathlodd Mr Walford Hughes MBE ei ben-blwydd yn 100 oed yng Nghartref Tregerddan yng nghwmni Cadeirydd y Cyngor ar y pryd, sef y Cynghorydd Peter Davies MBE, a’r Cynghorydd Paul Hinge sef y cynghorydd lleol ac Eiriolwr y Lluoedd Arfog yn y Cyngor.

14/08/2020