Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae Porth Cymorth Cynnar wedi sefydlu llwyfan rhithwir er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu cadw mewn cysylltiad gyda thrigolion bregus ar draws Ceredigion.

Oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd i ddiogelu ein cymunedau yn erbyn COVID-19, ni fydd nifer o drigolion yn gallu cael mynediad at y cymorth neu’r ddarpariaeth y maent yn ei dderbyn fel arfer, megis grwpiau rhieni neu ddosbarthiadau atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff. Yn hytrach, rydym yn sicrhau y cedwir mewn cysylltiad â’r holl drigolion sy’n hysbys i’n gwasanaethau drwy alwadau lles rheolaidd, pe baent yn dymuno derbyn hynny.

Bydd ein staff yn cyfathrebu gydag oddeutu 2000 o drigolion, gan amrywio o bobl ifanc i deuluoedd i ofalwyr a all fod angen cyswllt rheolaidd arnynt neu a fyddai’n elwa o hynny tra nad yw eu gwasanaeth yn gweithredu fel yr arfer.

Hyd yn hyn, mae bron i 2,000 o alwadau lles wedi cael eu gwneud, ac mae’r rhain wedi cael derbyniad da ar draws Ceredigion. Mae trigolion wedi dweud ei bod yn wych bod rhywun yn cadw mewn cysylltiad â nhw, er mwyn rhoi cyfle iddynt gael galwad ffôn wythnosol a rhywun i siarad â nhw.

Mae Mrs Edwards (enw wedi’i newid) wedi derbyn ei galwad cyntaf gan aelod o dîm Porth Cymorth Cynnar. Ar hyn o bryd, mae Mrs Edwards yn derbyn cymorth deirgwaith y dydd gan aelod o’r teulu sy’n gofalu amdani. Yr wythnos hon, dywedodd Mrs Edwards wrth ein tîm ei bod hi’n poeni y byddai’r gofal hwn yn dod i ben o ystyried yr amgylchiadau’n ymwneud â COVID-19. Rhoddodd aelod o’n staff ei rhif ffôn symudol i Mrs Edwards er mwyn iddi allu cadw mewn cysylltiad i drafod ei phryderon, a rhoddwyd rhif 24/7 y Tîm Dyletswyddau Brys i Mrs Edwards fel mesur ychwanegol. Bydd cyswllt dyddiol yn cael ei wneud gyda Mrs Edwards er mwyn cadw golwg ar ei hiechyd a’i lles. Dywedodd Mrs Edwards ei bod hi’n gwerthfawrogi’r galwad lles, a mynegodd ei bod yn rhyddhad gallu siarad â rhywun.

Os byddech chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn elwa o’r Gwasanaeth Cadw Mewn Cysylltiad, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk a fydd yn cyfeirio eich ymholiad at wasanaeth Porth Cymorth Cynnar.

Mae Porth Cymorth Cynnar hefyd yn diweddaru rhestrau adnoddau yn rheolaidd, ac mae’r rhain ar gael yma ar wefan y Cyngor.

09/04/2020