Yn fis Awst 2018, sicrhaodd Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth, sef is-grŵp o Glwb Ieuenctid Penparcau, o dan arweiniad Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, grant o £700 drwy Gynllun Grant Dan Arweiniad Pobl Ifanc CAVO Ceredigion, i greu cerflun ar gyfer eu cymuned leol ym Mhenparcau

Nod y prosiect oedd gweithio gydag arlunydd proffesiynol i greu cerflun deniadol wedi’i wneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Penderfynodd y grŵp greu cadair yn siâp ‘Y Ddraig Goch’ ar gyfer y parc ym Mhenparcau. Cafodd y prosiect ei arwain gan bobl ifanc, o’r cam cynta’, sef o ysgrifennu’r cais i greu’r cerflun terfynol. Ymwelodd Gwirfoddolwyr Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, sy'n eistedd ar Banel Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid CAVO, y prosiect ar waith i ddysgu mwy am sut y gwariwyd yr arian.

Fe wnaeth y grŵp greu’r cerflun gyda sefydliad o’r enw ‘Splat Cymru’, sef menter gymdeithasol. Mae Splat Cymru’n fudiad sy’n lleol i Gaerfyrddin, a’u nod yw cefnogi plant a phobl ifanc trwy ddefnyddio celf a thechnoleg.

Dywedodd Brandon Jones, aelod o Lysgenhadon Cymunedol Aberystwyth, "Mae Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth yn cynnwys pobl ifanc o Glwb Ieuenctid Penparcau sy'n anelu at ddatblygu prosiectau ymgysylltu â'r gymuned a chynnal gweithgareddau codi arian yn ardal Penparcau ac Aberystwyth. Buom yn llwyddiannus wrth ysgrifennu cais ar gyfer Cynllun Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid CAVO. Bûm wedyn yn gweithio gyda James a Zoe o ‘Splat Cymru’ i ddylunio a chreu’r cerflun. Rydym eisiau cadw’r gadair yn y parc ym Mhenparcau i blant a phobl ifanc eraill gael ei mwynhau.”

Dywedodd Lowri Evans, Prif Swyddog Ieuenctid Dros Dro Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Gweithiodd y prosiect diweddaraf yma’n dda iawn. Roedd y bobl ifanc yn gyfrifol am bob agwedd o’r prosiect, o sicrhau'r arian i baentio'r cerflun terfynol. Roedd y bobl ifanc wedi mwynhau gweithio gyda ‘Splat Cymru’, roeddent wedi cael cryn dipyn o hwyl, ond hefyd wedi ennyn diddordeb a dysgu sgiliau newydd. Dysgodd y bobl ifanc sut i greu rhywbeth newydd allan o hen ddeunydd, a hefyd datblygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ailgylchu ac ailddefnyddio. Hoffem hefyd ddiolch i CAVO Ceredigion am ariannu'r prosiect a galluogi’r bobl ifanc i gael y cyfle hwn. "

Dywedodd Cynghorydd Catrin Miles, “Mae’n wych gweld cyfleoedd fel y rhain yn cael eu cynnig i bobl ifanc i alluogi nhw i ddatblygu sgiliau, cymdeithasu a darganfod diddordebau newydd. Mae'n braf gweld rhaglenni fel hyn yn parhau i ddatblygu er lles bywydau pobl ifanc. "

Am fwy o wybodaeth am waith Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ewch i’w tudalennau Facebook, Twitter neu Instagram ar @GICeredigionYS neu cymerwch olwg ar eu gwefan www.giceredigionys.co.uk.

04/02/2019