Cafwyd ple euog ar gyfer 9 cyhuddiad yn ymwneud â rheoliadau lles anifeiliaid, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a thwbercwlosis buchol mewn fferm da byw a sefydliad bridio cŵn ger Llandysul.

Ar 1 Hydref 2020, plediodd Mr a Mrs IDG ac EE Evans o Arthach, Blaencelyn Llandysul yn euog i’r cyhuddiadau hyn yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth.

Roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gweithio â’r bridwyr trwyddedig i wella safonau eu cyfleuster bridio cŵn, fodd bynnag nid oes gan y sefydliad drwydded bridio bellach oherwydd methiannau hirsefydlog i fodloni’r safonau sylfaenol a ddisgwylir. Yn ystod ymweliad yn ymwneud â bridio cŵn ym mis Tachwedd 2019, canfu'r Milfeddyg a'r Swyddogion Iechyd Anifeiliaid nifer o faterion. Plediodd Mrs EE Evans yn euog i achosi dioddefaint diangen i gi Pwg drwy fethu â chael triniaeth filfeddygol ar gyfer cyflwr llygaid. 

Yn ogystal, plediodd yn euog i achosi dioddefaint diangen i ddau sbaniel drwy fethu â chyflawni rhaglen wella a chyfoethogi ar gyfer y cŵn. Gwelodd y Barnwr Rhanbarth glipiau fideo a chwaraewyd yn y llys a oedd yn dangos y cŵn yn cerdded mewn cylchoedd drosodd a throsodd. Daeth y milfeddyg i’r casgliad y gellid priodoli’r ymddygiad hwn i’r amgylchedd gwael a diflas, a’i fod hefyd wedi achosi iddynt ddioddef yn feddyliol yn ddiangen.

Clywodd y Llys dystiolaeth hefyd mewn perthynas â safonau hwsmonaeth gwael ar gyfer y gwartheg a gedwir ar y fferm. Plediodd DGE Evans yn euog i fethu â bodloni anghenion yr anifeiliaid yr oedd yn gyfrifol amdanynt fel sy’n ofynnol gan arfer da. Roedd y cyhuddiadau hyn yn cynnwys gorlenwi’r siediau gwartheg yn ddifrifol. Ymwelodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a’r Swyddog Iechyd Anifeiliaid ym mis Chwefror 2019 yn dilyn cwyn, a chanfod bod llociau’r sied mor orlawn fel nad oedd gan y gwartheg ddigon o le i orwedd yn gyfforddus, ac roedd cystadleuaeth sylweddol am fwyd a dŵr.

Daethpwyd o hyd i wartheg heb ardal sych iddynt orwedd yn y siediau hefyd, ac roedd eu cotiau wedi’u baeddu â slyri a baw sy’n arwydd eu bod wedi byw yn yr amodau hyn ers amser maith. Yn ogystal, mewn un lloc daethpwyd o hyd i lo newydd-anedig a’i fam mewn amodau tebyg gyda’r gwellt wedi gwlychu trwyddo â thail, ac roeddent yn cael eu cadw â gwartheg eraill a oedd yn golygu bod risg o anaf i’r llo newydd-anedig. Plediodd Mr DGE Evans yn euog i’r cyhuddiadau hyn o fethu â bodloni anghenion yr anifeiliaid hyn fel sy’n ofynnol gan arfer da.

Yn ogystal, daethpwyd o hyd i ddafad a oedd wedi torri’i choes ar y fferm, ac roedd wedi bod yn y cyflwr hwnnw ers mis Gorffennaf 2018. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o driniaeth filfeddygol ar gyfer yr anifail hwn, ac fe'i difawyd wedi hynny er mwyn atal unrhyw ddioddefaint pellach. Yn y llys, cyfaddefodd Mr. DGE Evans iddo achosi dioddefaint diangen i'r anifail hwn.

Cyfaddefodd y ddau ddiffynnydd i fethu â chael gwared â sgil-gynhyrchion anifeiliaid, sef carcasau defaid. Yn ystod ymweliad y Swyddogion Iechyd Anifeiliaid ym mis Chwefror 2019, daethpwyd o hyd i bedwar carcas dafad a oedd wedi pydru i wahanol raddau yn y caeau.

Cyfaddefodd y pâr i gyhuddiad pellach o fethu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a nododd adweithyddion amhendant mewn prawf twbercwlosis (TB) diweddar. Roedd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r ffermwyr wahanu ac ynysu’r anifeiliaid hyn er mwyn atal y risg o ledaenu TB i'r anifeiliaid eraill yn y fuches. Yn ystod yr ymweliad ym mis Mawrth 2019, canfu’r Swyddogion Iechyd Anifeiliaid nad oedd y gwartheg dan sylw wedi cael eu gwahanu.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael a Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd: "Rwy'n ddiolchgar i’r swyddogion a’r staff cyfreithiol am weithio’n ddiwyd i fynd ar drywydd y materion hyn a sicrhau ple euog drwy gasglu tystiolaeth gadarn a pharatoi’n drylwyr. Er bod y mwyafrif helaeth o ffermwyr yng Ngheredigion yn ymarfer hwsmonaeth anifeiliaid i safon uchel, yn anffodus mae'n rhaid i ni ddelio â lleiafrif sydd, am ba reswm bynnag, yn methu â bodloni safonau cyfreithiol sylfaenol."

Wrth ddedfrydu, ystyriodd y Barnwr Rhanbarth y ffaith na fu unrhyw gyhuddiadau yn erbyn y ffermwyr yn y gorffennol. Cawsant ddirwy o £7336.00 am yr holl gyhuddiadau, a oedd yn cynnwys costau cyfreithiol yr awdurdod.

06/10/2020