Penodwyd Sian Howys yn Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal (Gwasanaethau Arbenigol) Cyngor Sir Ceredigion ac yn Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yn dilyn proses ailstrwythuro ddiweddar, lle newidiwyd y modd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau cymdeithasol i bobl yng Ngheredigion, dyma’r penodiad olaf i rôl uwch yn y model darparu gwasanaethau integredig, sy’n cyfuno ein hystod gyfredol o wasanaethau gofal cymdeithasol gyda gwasanaethau arbenigol ym maes ymyrraeth gynnar, atal, a gydol oed. Bydd y rôl hon yn arwain ar wasanaethau gan gynnwys diogelu, lles meddyliol, gofal a chymorth wedi’i gynllunio, cam-ddefnyddio sylweddau, cymorth estynedig (anabledd) a sicrhau ansawdd ac adolygiad annibynnol.

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion “Hoffwn longyfarch Sian ar ei phenodiad i’r rôl bwysig hon wrth i ni drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau cymdeithasol yng Ngheredigion. Bydd profiad Sian ym maes diogelu a sicrhau ansawdd yn hanfodol wrth i ni barhau i ddatblygu’r model i ddarparu gwasanaethau integredig.”

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu penodi rhywun sydd â’r cefndir a’r profiad sydd gan Sian. Roedd hi’n ymgeisydd cryf, a bydd yn gallu gweithio gydag eraill a sicrhau bod y model darparu newydd yn llwyddiannus.”

Yn ystod ei gyrfa, mae Sian wedi gweithio ym maes diogelu a sicrhau ansawdd ac wedi gweithio gyda phlant mewn gofal yn ogystal â phlant a oedd yn dioddef o gam-drin domestig. Mae gan Sian dros 20 mlynedd o brofiad ym maes Gofal Cymdeithasol ac mae wedi gweithio i’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn ystod ei gyrfa.

Dywedodd Sian Howys “Rwy’n ddiolchgar iawn o gael cynnig y cyfle hwn, a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod gwasanaethau cymorth sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yng Ngheredigion yn cael eu datblygu a’u darparu, gan weithio gydag asiantaethau partner ac adeiladu ar gryfderau a chydnerthedd cymunedol.”

Penodwyd Sian mewn cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2020 ar ôl i gynghorwyr bleidleisio i gefnogi ei phenodiad. Bydd Sian yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Gorffennaf 2020.

01/07/2020