Mewn cyfarfod cyngor ar 13 Rhagfyr 2018, cymeradwyodd y cyngor ar benderfyniad Dim Casinos. Bydd y penderfyniad yma mewn lle tan 2022.

O dan Ddeddf Gamblo 2005, mae angen i’r cyngor benderfynu bob tair blynedd os yw yn mynd i dderbyn Casinos ai peidio. Mae’r cyngor wedi gwrthod yr opsiwn i dderbyn ceisiadau am gasinos yng Ngheredigion yn y gorffennol.

Dywedodd aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Gareth Lloyd, “Rydym wedi parhau a’r penderfyniad ‘Dim Casinos’ i leihau’r niwed mae gamblo cymhellol yn gallu credu i unigolion a theuluoedd. Bydd hyn ddim yn lleddfu gamblo cymhellol yng Ngheredigion ar ben ei hun, ond mae e’n un gam pwysig gallwn ni gymryd i gyfyngu’r sgil effeithiau ofnadwy y mae gamblo cymhellol yn gallu creu.”

Roedd y penderfyniad yn rhan o Bolisi Gamblo ehangach sy’n rheoleiddio sawl agwedd o gamblo yn y sir. Cafodd y polisi ei gymeradwyo hefyd yn y cyfarfod cyngor. Cynhaliwyd ymgynghoriad chwe wythnos yn gynharach yn y flwyddyn ar ddrafft o’r polisi. Ystyriwyd yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyn credu drafft terfynol.

14/12/2018