Bydd y parthau diogel sydd mewn pedair tref yng Ngheredigion yn parhau yn dilyn ymgynghoriad diweddar, sydd nawr wedi cau.

Crëwyd parthau diogel yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd gan Gyngor Sir Ceredigion er mwyn creu trefi diogel ac apelgar lle gall pobl siopa a mwynhau.

Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio yn y sir ac o ystyried fod cadw pellter yn dal i fod yn bwysig, roedd angen i Gyngor Sir Ceredigion gyflwyno addasiadau yn y trefi am resymau iechyd cyhoeddus.

Cyflwynwyd y parthau ar 13 Gorffennaf 2020. Yn dilyn adborth gan bobl a gysylltodd â'u safbwyntiau a'u sylwadau, rydym wedi gwneud newidiadau lle bo hynny'n briodol, gan gynnwys:

• Symud y rhwystrau ger Rhodfa Fuddug, Aberystwyth ac ar hyd rhan o’r prom. Mae llefydd parcio ar gael fan hyn bellach.
• Cael gwared ar y cyfyngiadau traffig yng nghyffiniau Stryd y Castell a Maes Iago, Aberystwyth
• Darparu llefydd parcio ychwanegol i'r anabl yn y lleoliadau a nodir ar y mapiau, yn enwedig yn Aberystwyth ac Aberteifi
• Gwneud gwaith adeiladu i ledu’r troetffyrdd yn Aberaeron

Yn ogystal â chanlyniadau'r ymgynghoriad, mae adolygiad parhaus o ddata, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, nifer yr ymwelwyr ar hyn o bryd a'r nifer a ragwelir, yn awgrymu bod angen o hyd am y parthau diogel. Mae gorchymyn traffig newydd yn cael ei roi ar waith a fydd yn golygu bod modd cau’r ffyrdd am gyfnodau dros 18 mis oddi ar 24 Awst 2020. Y farn bresennol yw bod angen cadw'r parthau diogel tan o leiaf fis Hydref, ond caiff hyn ei adolygu’n barhaus a'i newid os bydd angen, yn unol â nifer yr achosion o goronafeirws yn y sir. Rydym wrthi’n ystyried sawl agwedd ar y parthau a sut y gellir eu datblygu a'u gwella, gan gynnwys ystyriaethau mynediad.

Rhwng 31 Gorffennaf a 10 Awst ymgynghorodd y Cyngor ar y Parthau Diogel a daeth 2,065 o ymatebion i law.

Roedd 64% o’r rhain naill ai'n cytuno neu'n cytuno'n gryf â'r egwyddor o greu parthau diogel.

Dyma ganfyddiadau eraill:
• Roedd 51% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod y parthau diogel yn galluogi pobl i ymweld â’r trefi yn ddiogel (roedd 38% yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf);
• Roedd 37% yn credu bod y parthau diogel yn cael effaith dda neu dda iawn ar fusnesau (dywedodd 26% eu bod yn cael effaith wael neu wael iawn);
• Roedd 52% yn credu eu bod yn cael effaith dda neu dda iawn ar awyrgylch y trefi (dywedodd 27% eu bod yn cael effaith wael neu wael iawn); ac
• Roedd 52% o'r farn bod yr effaith ar bobl anabl, deiliaid Bathodynnau Glas a'r henoed yn wael neu'n wael iawn (dywedodd 9% bod yr effaith yn dda neu'n dda iawn).

Mae canlyniadau'r arolwg yn galonogol ond maent wedi tynnu sylw at feysydd y bydd angen i'r Cyngor eu gwella. Roedd 52% o'r farn bod yr effaith ar bobl anabl, deiliaid Bathodynnau Glas a'r henoed yn wael neu'n wael iawn (dywedodd 9% bod yr effaith yn dda neu'n dda iawn). Rydym wedi creu mwy o lefydd parcio i bobl anabl ac yn bwriadu gwneud rhagor o welliannau lle bo hynny'n bosibl. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â Fforwm Anabledd Ceredigion i nodi a datrys anawsterau i bobl anabl o ran mynediad a pharcio.

Cynhelir ymgynghoriad pellach yn y dyfodol agos i weld a ddylid cynnal y parthau hyn eto yn y blynyddoedd sydd i ddod a beth fydd angen i’r Cyngor ei wneud i’w gwella.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen y Parthau Diogel.

14/08/2020