Ar ddydd Sadwrn 5 Mehefin, fe gyhoeddodd y Mentrau Iaith mai 'chant' Osian Jones o Aberaeron oedd hoff chant Cymru yng nghystadleuaeth Gwlad y Chants!

Fel rhan o Gwlad y Chants roedd y Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn galw ar gefnogwyr pêl-droed Cymru i bleidleisio ar gyfer ‘chant’ newydd i gefnogi Cymru yn EURO2020 gyda’r buddugol yn cael y cyfle i ymweld ag ymarfer y garfan genedlaethol yn y dyfodol.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i blant oed cynradd, uwchradd ag oedolion gydag enillydd pob categori yn derbyn crys wedi ei arwyddo gan garfan EURO2020.

‘Sea Chanty’ Osian Jones, aelod o dim pêl-droed dan 12 Felinfach a’n ddisgybl yn Ysgol Ciliau Parc, daeth yn fuddugol yn y categori cynradd a fe hefyd gwnaeth dderbyn y nifer mwyaf o bleidleisiau o’r holl gategorïau. Mae ei chant yn seiliedig ar y sianti The Wellerman a ddaeth yn boblogaidd tu hwnt eleni ar y cyfrwng Tik Tok.

Meddai un o’r beirniaid, cyflwynydd rhaglen ‘Y Wal Goch’, Yws Gwynedd am chant Osian: “Dwi’n meddwl mai dyma’n ffefryn i erioed! On point, on trend, bang on.”

Cytuna’r beirniad Sioned Dafydd, sylwebydd ‘Sgorio’: “Rhaid i mi ddweud chwarae teg i Osian achos, mas o’r categorïau i gyd, y fe sydd ar frig y tabl. Da iawn ti Osian, fi’n big fan.”

Mae Gwlad y Chants yn ymgyrch ar y cyd rhwng y Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn clywed mwy o’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar y terasau yn y dyfodol.

Dywed Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered: Menter Iaith Ceredigion: “Fel Menter, ry’n ni wrth ein boddau fod Osian wedi ennill y gystadleuaeth hon. Mae amser nawr i bawb ei ddysgu er mwyn cefnogi Cymru yn EURO2020! Mae ei ‘chant’ yn wych a gobeithio fydd ei lwyddiant yn ysgogi eraill i greu mwy o ‘chants’ pêl-droed yn Gymraeg yn y dyfodol.”

Mae modd clywed y ‘chants’ buddugol ar www.mentrauiaith.cymru/gwlad-y-chants.

 

07/06/2021