Mae timau ar draws Ceredigion wedi gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag unigedd a chefnogi sgiliau lles emosiynol a magu plant yn ystod pandemig y coronafeirws.

Gyda'r clo cenedlaethol oherwydd COVID-19 ddiwedd mis Mawrth, roedd yn rhaid i wasanaethau newid eu ffyrdd o weithio. Bu Cyngor Sir Ceredigion, Dechrau’n Deg Ceredigion, Tîm Teulu, Canolfannau Teulu, peilot Braenaru a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gyd yn gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd integredig i sicrhau bod gan deuluoedd fynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn ôl yr angen. Maent wedi defnyddio technoleg, mewnbwn teuluoedd ac arbenigedd i oresgyn eu heriau gan gynnwys gweithio gyda phlant gartref, diffyg cyswllt a gorfod addasu popeth i'w ddarparu ar-lein.

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu a Diwylliant Gydol Oes, “Roedd gan y rhaglenni gynlluniau i ddechrau darparu amrywiaeth o gyrsiau ar 01 Ebrill 2020, fel rhan ehangach o’r Grant Plant a Chymunedau. Roedd y rhain yn cynnwys ystod eang o grwpiau a chyrsiau i ymgysylltu â theuluoedd a meithrin cysylltiadau â'u cymunedau lleol ynghyd â mynd i'r afael ag unrhyw anghenion a nodwyd o ran tyfu eu gwytnwch, sgiliau, hyder a gwybodaeth. Wrth gwrs, ni allai hyn fynd yn ei flaen yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol, felly roedd yn rhaid newid y ffyrdd o weithio. Mae’r gwahanol dimau o’r sefydliadau partneriaeth wedi gweithio’n arbennig gyda’i gilydd er budd rhieni a theuluoedd Ceredigion.”

Gyda phryderon cynyddol am les rhieni a phwysau i ddod o hyd i ffyrdd o’u cefnogi, cytunodd y timau ei bod yn bwysig gallu cyflwyno cyrsiau a grwpiau ar-lein. Daeth y ffocws allweddol ar gyfer gweithredu i fod yn grwpiau a chyrsiau ar-lein yn ogystal â chysylltedd digidol.

Addaswyd grwpiau a chyrsiau mewn partneriaeth â rhieni i'w cyflwyno’n rhithiol. Roedd angen i'r cyrsiau fod yn ddeniadol ac yn effeithiol. Y canlyniad terfynol oedd rhaglen integredig iawn o gyrsiau ar-lein a oedd ar gael i rieni ledled Ceredigion.

Parhaodd Elen James, “Mae nifer y galwadau ffôn gan rieni sydd eisiau mwy o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer cyrsiau wedi cynyddu'n sylweddol. Yn Nhymor yr Hydref, cyflwynwyd cyfanswm o 20 cwrs gan ystod o staff o wahanol asiantaethau a mynychodd 101 o rieni. Erbyn hyn mae gennym restrau aros ar gyfer pob cwrs.”

Datblygwyd Cysylltedd Digidol i sicrhau nad oedd teuluoedd mewn caledi ariannol yn cael eu hunain mewn clo dwbl trwy beidio â chael mynediad at git, y credyd na’r wybodaeth berthnasol. Prynwyd 16 iPad a 10 MiFi ac ar gyfartaledd mae 17 ar fenthyg i deuluoedd.

Am ragor o wybodaeth, gofynnwch eich canolfan deuluol leol, dilynwch dudalen Facebook Teuluoedd Ceredigion Families www.facebook.com/TeuluoeddCeredigionFamilies neu ewch i wefan Dewis Cymru www.Dewis.cymru.

12/02/2021