Dathlwyd wythnos y ffoaduriaid ledled y wlad rhwng 15 a 19 Mehefin. Yma yng Ngheredigion, roedd yn gyfle i gydnabod y gwaith cadarnhaol a gyflawnwyd sydd wedi galluogi 74 o ffoaduriaid o Syria i gael eu croesawu i'r Sir.

Mae teuluoedd o Syria wedi gallu ymgartrefu yng Ngheredigion drwy raglen adsefydlu ffoaduriaid Cyngor Sir Ceredigion ac o dan gynlluniau nawdd cymunedol sy’n cael eu rhedeg gan ddau grŵp cymunedol; Croeso Teifi ac Aberaid.

Dywedodd Cathryn Morgan, Cydlynydd Ffoaduriaid Syria Cyngor Sir Ceredigion: “Mae wythnos y ffoaduriaid wedi rhoi cyfle i mi fyfyrio ar y ffordd y mae’r rhaglen adsefydlu ffoaduriaid wedi cyfoethogi ein bywydau yng Ngheredigion – yn enwedig yn nhrefi Aberystwyth, Aberteifi a Llambed. Mae'r amrywiaeth o ddigwyddiadau y mae'r teuluoedd o ffoaduriaid wedi'u cyfoethogi neu eu hysgogi ers i ni ddechrau'r rhaglenni adsefydlu ym mis Rhagfyr 2015 yn sylweddol.

“Cafwyd dangosiadau ffilm, arddangosiad celf, digwyddiad ‘blodau ar y prom’, digwyddiadau amlddiwylliannol, bwyd, cerddoriaeth a barddoniaeth. Mae pobl o Geredigion yn dysgu Arabeg ac yn meithrin dealltwriaeth o ddiwylliant y Dwyrain Canol, ac mae pobl o Syria yn dysgu Cymraeg ac yn meithrin dealltwriaeth o ddiwylliant lleol. Rwyf wedi bod yn dyst i'r ffordd y mae pobl leol wedi croesawu dieithriaid sy'n cael trafferth gyda breichiau agored. Rwyf hefyd wedi bod yn dyst i agwedd optimistaidd a gwydnwch y teuluoedd a wnaeth ffoi i'n glannau pan wnaeth y gwrthdaro yn Syria ei gwneud hi'n rhy beryglus iddynt aros yn eu gwlad eu hunain.

“Mae ein ffrindiau o Syria wedi helpu i ehangu ein dealltwriaeth o’r byd y tu hwnt i ffiniau’r ardal brydferth hon yng nghanolbarth Cymru. Mae eu hymddygiad urddasol a’u parodrwydd i ‘fwrw ati’ yn esiampl i ni i gyd, ac mae’n fraint i mi fod yn rhan o’r rhaglen adsefydlu ffoaduriaid yng Ngheredigion.”

Enillodd Cyngor Sir Ceredigion ‘Wobr Awdurdod Lleol 2019’ ledled y DU yng Ngwobrau Nawdd Cymunedol 2019 am ei waith gyda grwpiau cymunedol sy’n helpu teuluoedd sy’n ffoi rhag rhyfel, newyn a digartrefedd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, sydd yn Gadeirydd Grŵp Ailsefydlu Ffoaduriaid Ceredigion: “Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae ein cymunedau wedi croesawu’r ffoaduriaid o Syria sydd wedi dod i fyw yn ein plith. Mae Ceredigion wedi profi i fod yn hafan ddiogel iddyn nhw i gyd, gan eu galluogi i ail-ymgartrefu mewn amgylchedd diogel a dod yn rhan o’r gymuned leol. Mae’r plant wedi setlo’n dda yn ein hysgolion ac mae eraill wedi dod o hyd i waith a dechrau busnes hyd yn oed. Diolch yn fawr iawn i’r rheini sydd wedi eu cefnogi, yn enwedig staff y Groes Goch sydd wedi gweithio gyda nhw o’r dechrau.”

Mabwysiadwyd dull partneriaeth ar gyfer adsefydlu ffoaduriaid gyda Chyngor Sir Ceredigion, y Groes Goch a Choleg Ceredigion yn gweithio ar y cyd.

Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi cefnogi’r teuluoedd o Syria i ymgartrefu yng Ngheredigion ers iddynt ddechrau cyrraedd yn 2015. Dywedodd Kathryn Dupont, Cydlynydd Prosiect y Groes Goch: “Mae wedi bod yn fraint fawr i ni gefnogi’r teuluoedd hyn ar eu siwrnai i deimlo’n gwbl integredig yn ein cymuned yng Ngheredigion. Rwy’n cael fy ysbrydoli’n gyson gan eu hagwedd benderfynol a’u dyfeisgarwch mewn amgylchiadau sy’n aml yn anodd iawn. Mae wedi bod yn bleser mawr eu gweld yn magu hyder ac yn symud oddi wrth angen ein cymorth”

Mae Coleg Ceredigion wedi bod yn bartner pwysig drwy ddarparu gwersi Saesneg. Dywedodd Rae Cashman, un o’r tiwtoriaid Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill: “Mae wedi bod yn fraint dysgu Saesneg i’r ffoaduriaid o Syria yng Ngholeg Ceredigion dros y tair blynedd diwethaf. Rwyf wedi fy syfrdanu gan eu hagwedd bositif at ddysgu, eu cymhelliant a’u llwyddiannau. Credaf eu bod yn bobl hael eu hysbryd. Mae’r holl ddisgyblion wedi wynebu heriau personol: salwch; pryderon am eu plant ac aelodau eu teulu yn Syria, mae rhai ohonynt wedi ennill gwaith ac wedi pasio eu prawf theori gyrru a’u profion gyrru ymarferol. Nhw yw fy nisgyblion ac maent wedi dod yn rhan werthfawr iawn o gymuned y coleg. Mewn rhai ffyrdd rydym yn wahanol, ond mewn sawl ffordd rydym yr un fath.”

01/07/2020