Lansiwyd llyfryn cymorth Cymraeg newydd er budd rhieni a gwarcheidwaid sy’n dysgu Cymraeg yn y sir ddydd Gwener, 18 Tachwedd 2022.

Mae Tîm Cefnogi’r Gymraeg yng Ngheredigion a Sir Benfro wedi cydweithio i greu llyfryn a fydd o gymorth i rieni a gwarcheidwaid sy’n dysgu Cymraeg wrth i’w plant ddechrau ar eu haddysg yn ysgolion cynradd y sir.

Mae’r llyfryn ar gael i holl ysgolion cynradd y sir, i’w rannu gyda rhieni a gwarcheidwaid sydd â phlant yn cychwyn yn yr ysgol neu’n symud i’r sir yn ystod blynyddoedd cynnar eu haddysg.

Seren a Sbarc yw arwyr y Siarter Iaith sy’n annog defnydd o’r Gymraeg ar yr iard, gartref ac yn y dosbarth. Mae’r llyfryn yn cynnig cymorth a geirfa fydd o ddefnydd i rieni a gwarcheidwaid wrth i’w plant wneud gwaith cartref, ymuno a bod yn rhan o gymuned yr ysgol a gobeithio dechrau ar eu taith hwythau o ddysgu Cymraeg hefyd.

Lansiwyd y llyfryn yn Ysgol Gynradd Comins Coch, lle mae grŵp o rieni sydd â phlant yn yr ysgol eisoes yn mynychu gwersi Cymraeg o dan arweiniad Rhiannon Taylor, Tiwtor Cymraeg i Rieni gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg. Dywedodd Jessica Longworth, rhiant sy’n derbyn gwersi Cymraeg: “Dwi’n hoffi dysgu Cymraeg achos mae’r gwersi yn llawer o hwyl. Mae fy mab yn gallu ymarfer siarad Cymraeg gyda fi adref.”

Dywedodd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Y gobaith yw y bydd rhieni a gwarcheidwaid yn defnyddio’r llyfryn defnyddiol a diddorol hwn ac yn cael eu hysbrydoli i ddysgu am y diwylliant a dechrau dysgu Cymraeg."

Dywedodd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg: “Mae timoedd Cefnogi’r Gymraeg wedi gwneud gwaith gwych gyda’r llyfryn yma. Mae ganddo'r holl eiriau ac ymadroddion defnyddiol fydd yn cefnogi rhieni a gwarcheidwaid a’u plant yn yr ysgol gynradd. Rwy'n gobeithio bod y llyfryn yn mynd i roi hyder i rieni a gwarcheidwaid i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u plant adre, fel eu bod yn defnyddio’r Gymraeg yn y cartref yn ogystal ag yn yr ysgol.”

Mae gwersi Cymraeg ar gael mewn amrywiaeth o ysgolion o amgylch y sir. Os hoffech gael fwy o wybodaeth am y cyrsiau hyn, cysylltwch ag Anwen ar anwen.eleribowen@ceredigion.gov.uk

21/11/2022