Bydd llyfrgelloedd Ceredigion yn agor i bori heb apwyntiad ar 09 Awst.
Bydd pobl yn gallu galw i mewn i'w llyfrgell leol i bori a dewis llyfrau yn eu hamser eu hun.
Bydd y gwasanaeth Clicio a Chasglu yn parhau i gwsmeriaid a bydd y Gwasanaeth Cyflenwi Cartref hefyd yn parhau ar gyfer cwsmeriaid bregus neu bobl sy’n gaeth i'r tŷ.
Mae rhifau cyswllt ac amseroedd agor ar gael ar wefan Llyfrgelloedd Ceredigion.
Dewch o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar dudalen Facebook Llyfrgell Ceredigion.
Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.
Oherwydd y cynnydd yn y nifer o achosion COVID-19, bydd mynediad i wasanaeth cyfrifiadurol cyhoeddus y llyfrgell yn cael ei atal dros dro. Ni chymerir unrhyw archebion pellach nes bod y risg wedi'i lleihau'n ddigonol a bod adolygiad yn cael ei gynnal.
04/08/2021