Yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 cynhaliwyd rhwng 27 Mai a 1 Mehefin, dathlodd disgyblion o ysgol Bro Teifi eu llwyddiant ar lwyfan Canolfan y Mileniwm.

Dywedodd Gareth Evans, Pennaeth Ysgol Bro Teifi dros dro, “Llongyfarchiadau i’r corau, partïon a’r unigolion ar eu llwyddiant a diolch i’r holl hyfforddwyr a’r rhieni am eu cefnogaeth.

“Llongyfarchiadau i’r unigolion canlynol ar eu llwyddiant sef: Peredur Llywelyn yn gyntaf yn y gystadleuaeth Llefaru unigol i Flwyddyn 6 ac Iau; Alwena Owen yn gyntaf wrth gyflwyno Alaw Werin Unigol Blwyddyn 6 ac Iau ac yn drydydd yn yr Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 6 ac Iau.”

Cafwyd yr ysgol llwyddiant hefyd yn y cystadlaethau torfol: Côr Blwyddyn 6 ac Iau (3ydd), Parti Bechgyn Blwyddyn 7-9 (2ail), Ensemble Lleisiol Blwyddyn 7-9 (1af), Ensemble Lleisiol Blwyddyn 10 o dan 19 oed (3ydd), Grŵp llefaru Blwyddyn 6 ac Iau (2ail).

 

 

21/06/2019