I nodi 10 mlynedd Cyfamod y Lluoedd Arfog, ar 28 Medi ail-ddatganodd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ac Eiriolwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Paul Hinge, ymrwymiad y cyngor i Gyfamod y Lluoedd Arfog trwy gynnal seremoni lofnodi swyddogol ym Marina Aberystwyth.

Cynhaliwyd y seremoni, a drefnwyd gan Gyngor Sir Ceredigion a’r Llynges Frenhinol, ar fwrdd HMS TRACKER. Er mwyn sicrhau y glynwyd at fesurau iechyd a diogelwch Covid-19, dim ond nifer fach o urddasolion a fynychodd y digwyddiad, gan gynnwys Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Nyfed, Miss Sara Edwards.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge: “Mae hwn yn gyfle unigryw i Geredigion lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ar fwrdd un o longau’r Llynges Frenhinol. Gan ein bod yn sir â hanes morwrol cyfoethog, mae'n addas bod y seremoni hon yn cael ei chynnal ar un o longau’r Llynges Frenhinol tra bod hi wedi’i hangori yn y marina ffyniannus yn Aberystwyth. Pan gynigiwyd cyfle i ni gynnal y seremoni ar HMS TRACKER, roeddem yn falch iawn o dderbyn y cynnig yn amodol ar reoliadau Covid. Fel Eiriolwr y Lluoedd Arfog a Chadeirydd y Cyngor rwy'n falch iawn ein bod, dros dymor y cyngor hwn, wedi gallu cynnal llawer o ddigwyddiadau seremonïol ar 'dir sych' ond bydd hwn yn arbennig gan nad ydym yn cael gweld y Llynges Frenhinol yma mor aml â hynny, felly rwy'n falch o groesawu Capten a Chriw HMS TRACKER yma i Geredigion ac i Aberystwyth i gynnal y seremoni ar y llong.”

Yn dilyn y seremoni lofnodi fer roedd y Cynghorydd Paul Hinge a’r Lefftenant Thomas Reed RN wedi cyflwyno placiau i’w gilydd i goffáu’r achlysur.

Dywedodd Capten y llong, y Lefftenant Thomas Reed RN: “Mae’n bleser o’r mwyaf cael dod â HMS TRACKER i Aberystwyth i gefnogi Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi gyda seremoni Cyngor Sir Ceredigion o lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog.  Mae saith mlynedd ers i’r Marina yn Aberystwyth groesawu llong ryfel o’r Llynges Frenhinol a’r gobaith yw dychwelyd yn fwy aml os oes ar yr Arglwydd Raglaw neu’r Sir ein hangen ni.”

Cwch patrolio cyflym dosbarth Archer P2000 yw’r HMS TRACKER. Ei chartref yw canolfan forwrol y llynges yn Clyde a’i gwaith yw sicrhau a diogelu unedau’r Llynges a chyfrannu at ddiogelu dyfroedd sofran y Deyrnas Unedig, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gydol y flwyddyn.

Dywedodd Hayley Edwards, Swyddog Cyswllt Cyngor Sir Ceredigion â’r Lluoedd Arfog a Swyddog Wrth Gefn yn y Fyddin: “Mae’n deimladwy iawn fod y Llynges Frenhinol yma i anrhydeddu ymrwymiad Cyngor Sir Ceredigion i Gyfamod y Lluoedd Arfog. Rydym yn cydnabod ymroddiad unigryw Cymuned y Lluoedd Arfog; yn filwyr sy'n gwasanaethu, yn gyn-filwyr a'u hanwyliaid. Mae cael y Llynges Frenhinol yma heddiw yn arwyddocaol iawn i Gymuned y Lluoedd Arfog ac mae’n nodi'r achlysur yn briodol. Diolch.”

Hoffai Cyngor Sir Ceredigion ddiolch i'r Marine Group am eu cymorth a'u cefnogaeth gyda'r seremoni lofnodi.

I gael mwy o wybodaeth am Gyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion, ewch i: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/cyfamod-cymunedol-y-lluoedd-arfog/

30/09/2021