Mae disgyblion, staff a rhieni Ysgol Llwyn yr Eos yn hapus iawn gyda chanfyddiadau arolygiad ESTYN ar yr ysgol, a gyhoeddwyd heddiw, 08 Ebrill.

Cafwyd bod 'Lles ac agweddau at ddysgu' a 'Gofal, Cymorth ac Arweiniad' yn rhagorol yn yr ysgol tra bod 'Safonau', 'Profiadau Addysgu a Dysgu ' ac 'Arweinyddiaeth a Rheolaeth ' i gyd yn dda.

Canfu arolygwyr Estyn fod yr ysgol yn ' amgylchedd diogel, eithriadol o ofalgar a chynhwysol iawn ar gyfer pob disgybl.'

Roedd arsylwadau gwersi a gwaith craffu ar waith a wnaed yn ystod yr arolygiad yn cadarnhau 'Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gwneud cynnydd da, a chynnydd da iawn yn aml, o'u gwahanol fannau cychwyn wrth iddynt symud drwy'r ysgol.'

Nododd yr arolygwyr fod 'Bron pob un o'r disgyblion yn dangos lefelau lles eithriadol o uchel' a bod 'Perthynas waith rhwng disgyblion a staff yn gynnes ac yn llawn ymddiriedaeth'. Roedd eu canfyddiadau'n cadarnhau bod 'Y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ddysgwyr hyderus gyda lefelau uchel o hunan-barch. Maent yn mwynhau'r ysgol ac yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at eu dysgu,' ac mae ‘Cymysgedd llwyddiannus o strategaethau addysgu yn cael effaith gadarnhaol iawn ar gyflawniad a lles disgyblion.'

Roedd y pennaeth, Brian Evans, yn canmol y disgyblion, y staff, y rhieni a'r gwarcheidwaid yn yr ysgol. Meddai, "Mae'r arolwg hwn yn gadarnhad o'r gwaith ardderchog sy'n digwydd yn Ysgol Llwyn yr Eos yn ddyddiol. Mae'n cadarnhau'r ymrwymiad a'r ymroddiad parhaus a ddangoswyd gan bob aelod o'n cymuned ysgol - rydym i gyd yn falch iawn o'r adroddiad hwn."

Canfu dyfarniadau ar y rhanddeiliaid eraill yn yr ysgol fod 'Pob aelod o staff yn dangos ymrwymiad cryf i hyrwyddo gwelliannau parhaus a chynaliadwy' a bod uwch reolwyr 'Yn ymgysylltu'n llwyddiannus â phob un o'r staff i greu ethos ysgol gyfan sy'n gosod lles disgyblion yng nghanol ei waith.' Canmolwyd llywodraethwyr yr ysgol hefyd am fod yn 'gefnogol iawn i'r ysgol ac yn wybodus am ei pherfformiad'.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes. Meddai, "Mae'n ganmoladwy darllen canfyddiadau adroddiad Estyn. Ar ran Cyngor Sir Ceredigon, hoffwn roi clod i'r holl ddisgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr yn Ysgol Llwyn yr Eos am y llwyddiannau a nodwyd. Mae cynwysoldeb Ysgol Llwyn yr Eos yn sicrhau bod anghenion addysgol a bugeiliol plant ar draws Ceredigion yn cael eu diwallu."

Gellir gweld holl adroddiadau Estyn ar wefan Estyn.

08/04/2019