Mae Radio Aber a Cered (Menter Iaith Ceredigion) wedi dod at ei gilydd er mwyn lansio rhaglen radio Gymraeg newydd sbon ar bêl droed o’r enw ‘Cefn y Rhwyd’.

Trwy gynnal trafodaeth fyw, mae’r rhaglen yn cael ei darlledu bob dydd Llun am 12yp ar Facebook Live Cered a Radio Aber.

“Mae’n grêt gallu gweithio gyda Cered er mwyn creu ein rhaglen fyw gyntaf! Ni wedi cydweithio yn agos iawn gyda’n gilydd dros y blynyddoedd diwethaf yn hyrwyddo’r Gymraeg, yn enwedig yn yr ysgolion. Bydd y rhaglen ar gael i bawb yn y gymuned gyda ffocws arbennig ar bel droed lleol,” dywedodd Sam Thomas, un o gyfarwyddwr Radio Aber.

Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered fydd yn gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen gan groesawu gwesteion arbennig i ymuno gydag e i drafod digwyddiadau’r penwythnos ac anelu at gynnwys chwaraewyr lleol hefyd. 

“Mae’n fraint i Cered allu bod yn rhan o raglenni ddarlledu byw cyntaf Radio Aber. Fe fydd ‘Cefn y Rhwyd’ yn trafod lot o pethe yn ymwneud â phêl droed gan gynnwys trafod canlyniadau penwythnos. Byddwn ni hefyd yn gwahodd gwestai sydd yn ymddiddori yn y maes pêl droed – gan gynnwys chwaraewyr presennol  a chyn chwaraewyr clybiau lleol er mwyn trafod storïau a hanesion. Byddwn yn trafod heriau’r dyfodol i’r gêm yn enwedig yn sgil Covid 19.” dywedodd Rhodri Francis.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Mae hyn yn rhan o’r ymdrech i annog pobl y sir i drafod Chwaraeon yn y Gymraeg. Bydd y rhaglen yma gobeithio yn dod a gwen i wyneb pawb ar Ddydd Llun!”

Am fanylion pellach neu os hoffwch fod yn ran o’r rhaglen, cysylltwch â Rhodri.francis@ceredigion.gov.uk neu sam.thomas@radioaber.cymru

01/03/2021