Cafodd y Gronfa Gofalwyr newydd ei lansio ar 30 Tachwedd mewn digwyddiad Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth. Mae’r Gronfa Gofalwyr Ceredigion yn darparu cyllid i Ofalwyr dalu am rywbeth er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles.

Lansio Cronfa Gofalwyr newydd ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr yn AberystwythMae ceisiadau eisoes wedi cael eu gwneud ac yn cael eu trin ar sail gyntaf i’r felin gaiff falu. Mae ceisiadau yn cael eu croesawu ar hyn o bryd.

Mae Gofalwyr yn darparu gofal di-dâl trwy edrych ar ôl aelod teulu, ffrind neu bartner sydd yn sâl, yn fregus, yn anabl, yn dioddef o afiechyd meddyliol, neu yn dioddef o gam ddefnydd alcohol neu gyffuriau.

Dywedodd Hyrwyddwr Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Catherine Hughes, “Mae gofalu am deulu neu ffrind yn gallu cael effaith ar eich iechyd a’ch lles. Os ydych yn gofalu am rywun yng Ngheredigion, gall y Gronfa Gofalwyr ddarparu swm bach o arian i’ch helpu i dalu am rywbeth er mwyn gwella eich iechyd a’ch lles. Rydych yn darparu gwasanaeth pwysig iawn, a dw i wrth fy modd bod y gronfa wedi cael ei greu i helpu Gofalwyr yng Ngheredigion.”

Daeth dros 100 o bobl i ddigwyddiad Diwrnod Hawliau Gofalwyr Ceredigion, a threfnwyd gan yr Uned Gofalwyr a phartneriaid. Roedd dros 30 o stondinau yn cynnig gwybodaeth a chyngor am nifer o sefydliadau sy’n cynnig cefnogaeth a gwasanaethau yng Ngheredigion i Ofalwyr a’r bobl y maent yn gofalu am. Yn ogystal â’r stondinau gwybodaeth, roedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Fferyllfa’r Borth yn darparu brechiadau ffliw yn ystod y diwrnod. Cynhaliwyd nifer o weithdai i gefnogi Gofalwyr yn eu rôl.

Dywedodd un person a wnaeth fynychu’r diwrnod, “Diolch mawr i chi am wneud y diwrnod yma’n bosib. Dw i’n dysgu llawer gyda chymaint o wybodaeth, cyngor ac mae pethau i’w gweld llawer mwy clir ac yn haws i’w gwneud.”

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr yn cynnig gwybodaeth a chyngor wedi eu teilwra i’r Gofalwr unigol a’u hamgylchiadau.

Am fwy o wybodaeth am Gronfa’r Gofalwyr a’r gwasanaeth wybodaeth, cysylltwch ag Uned Gofalwyr Ceredigion trwy ffonio 01970 633 564 neu trwy e-bostio unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk. Mae pobl yn gallu ysgrifennu at yr uned trwy ysgrifennu i’r cyfeiriad Uned Gofalwyr Ceredigion, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.

20/12/2018