Mae canllaw newydd ar ailgylchu i fyfyrwyr wedi’i lansio ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r canllaw, wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n byw yn Aberystwyth, yn darparu gwybodaeth am beth sy’n gallu cael ei ailgylchu ac awgrymiadau ar sut i wneud y gorau o’r gwasanaeth casglu gwastraff newydd. Mae’r canllaw yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ailgylchu a’i nod yw helpu i wella cyfraddau ailgylchu.

I gyd-fynd â’r canllaw, cynhelir arolwg ar gyfer myfyrwyr Aberystwyth sy’n byw mewn llety preifat, i ofyn am eu barn ar ailgylchu ac i ddarganfod eu harferion presennol o safbwynt gwaredu gwastraff. Defnyddir canfyddiadau’r arolwg fel rhan o brosiect ehangach sy’n edrych ar newid ymddygiad mewn ailgylchu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y sawl sy’n cwblhau’r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl. Mae’r gwobrau, sydd wedi eu rhoi trwy garedigrwydd, yn amrywio o docyn am ddim i’r pwll nofio neu’r gampfa am fis gyda Ceredigion Actif yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, nwyddau ac enw Aberystwyth iddynt o siop Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, tocyn am ddim i grŵp o bedwar i sinema awyr agored ‘Aber Fflics’ Aberystwyth Ar y Blaen a the prynhawn i ddau yn Nhŷ Coffi’r Coliseum, Amgueddfa Ceredigion. 

Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai. Dywedodd, “Bydd y canllaw newydd i fyfyrwyr yn helpu i sicrhau bod gan fyfyrwyr y wybodaeth hanfodol sydd ei angen i wneud y gorau o’r gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael iddynt yma yng Ngheredigion. Oherwydd y newidiadau diweddar i’n gwasanaeth, nawr yw’r amser delfrydol i godi ymwybyddiaeth o ba mor hawdd yw hi i ailgylchu ac i leihau faint o eitemau y gellir eu hailgylchu sy’n cael eu taflu’n ddiangen mewn bag bin du.

“I lawer o fyfyrwyr sy’n byw mewn llety preifat, efallai mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw brofi byw’n annibynnol a rhannu’r cyfrifoldeb am ddelio â’r gwastraff maen nhw’n ei gynhyrchu. Dyma pam, ynghyd â’r ddealltwriaeth bod pob Cyngor yn y DU yn wahanol yn y ffordd y maent yn delio â gwastraff, ein bod ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ein poblogaeth myfyrwyr yn Aberystwyth oherwydd efallai eu bod wedi arfer delio â gwastraff mewn ffordd hollol wahanol.

“Hoffwn gael gwybod eu barn ar ailgylchu ac ymddygiad o ran gwastraff ac i adnabod a goresgyn unrhyw faterion y gallent fod yn eu hwynebu. Felly, os ydych chi’n fyfyriwr yn Aberystwyth sy’n byw mewn llety preifat ar hyn o bryd, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych. Mae’r arolwg yn cymryd llai na dwy funud i’w gwblhau gyda chyfle i ennill gwobr.”

Gellir dod o hyd i arolwg y myfyrwyr yma: www.surveymonkey.co.uk/r/HoliadurMyfyrwyrArAilgylchu

Gellir dod o hyd i ganllaw myfyrwyr Aberystwyth yma: https://www.ceredigion.gov.uk/media/1119/canllaw-ailgylchu-i-fyfyrwyr-aber-2020.pdf

Am y wybodaeth ddiweddaraf ar wasanaethau casglu gwastraff Ceredigion, gan gynnwys y chwiliad côd post newydd, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/ailgylchu.

Mae'r arolwg ar gyfer myfyrwyr Aberystwyth sy'n byw mewn llety preifat yn unig ac ar agor tan 02 Mawrth 2020. Cyhoeddir enillwyr y gwobrau o'r arolwg ym mis Mawrth.

04/02/2020