Mae ymgynghoriad ar agor i gael barn trigolion Ceredigion ynghylch y Cynllun Cydraddoldeb Strategol o’r enw Ceredigion Teg a Chyfartal.

Mae angen i Gyngor Sir Ceredigion adolygu y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-24. Mae’r cynllun yn amlinellu sut y bydd y cyngor yn sicrhau bod y camau sy’n cael eu cymryd yn deg i bawb. Mae cael eich trin yn deg a chyda pharch yn berthnasol i bob un, a hefyd ein teuluoedd a'n ffrindiau.

Mae pum Amcan Cydraddoldeb yn y cynllun sef:
• Cyflogwr Cyfle Cyfartal Enghreifftiol
• Meithrin Perthnasoedd Da a Mynd i'r Afael â Rhagfarn
• Ymgysylltu a Chyfranogi
• Urddas, Parch a Mynediad i Wasanaethau
• Addysg Deg a Chynhwysol
Hoffem gael eich barn ar y pum Amcan Cydraddoldeb yma a chael unrhyw sylwadau eraill sydd gennych.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Eiriolwr Cydraddoldeb y cyngor. Dywedodd, “Mae cael ein trin yn deg a chyda pharch yn berthnasol i bob un ohonom ac i’n teuluoedd a’n ffrindiau. Mae angen i ni adolygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-24. Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn sicrhau bod ein gweithredoedd yn deg i bawb. Cymerwch olwg ar ein cynllun drafft oherwydd bydd eich adborth a'ch sylwadau yn ein helpu i lunio ein fersiwn derfynol o ‘Ceredigion Teg a Chyfartal’. ”

Mae’r cynllun wedi’i selio ar dri phrif faes o dystiolaeth sef Arolwg Cydraddoldeb Canolbarth a Gorllewin Cymru 2019; Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - 'Ydy Cymru'n Decach 2018?'; a’n ‘Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-20’.

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 29 Ionawr 2020. Gellir gweld yr ymgynghoriad a'r dogfennau ategol ar wefan y cyngor: www.ceredigion.gov.uk/ymgynghoriadau/ Mae copïau called ar gael yn Llyfrgelloedd y Cyngor ar draws y sir.

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad gan Gabinet y cyngor ar 17 Rhagfyr 2019.

Bydd y fersiwn terfynol ‘Ceredigion Teg a Chyfartal 2020-24’ yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ceredigion ar ddiwedd mis Mawrth 2020.

19/12/2019