Roedd Dwynwen, Pennaeth Theatr Felinfach wrthi yn e-bostio llythyr ei phlant at Siôn Corn, pan yn sydyn, clywodd dincial cloch. Roedd e-bost wedi cyrraedd, ateb wrth Siôn Corn!

Roedd Siôn Corn a Mrs Corn wedi hela e-bost i ofyn am help eu ffrindiau o Theatr Felinfach i ddanfon neges i blant ysgolion cynradd Ceredigion ar gyfer y Nadolig. Roedd e’ am ddiolch iddyn nhw i gyd am wneud cymaint o ymdrech wrth gadw’n ddiogel, cadw pellter a golchi dwylo yn ystod 2020. Roedd e’ hefyd am ddweud diolch wrthynt am eu gwasanaethau a sioeau rhithiol i ddathlu’r Nadolig ac roedd e’ am iddyn nhw wybod y byddai ef yn ymweld â phawb dros yr Ŵyl yn ddiogel hefyd.

Gofynnodd i’w ffrindiau, Dwynwen, Dylan, Huw, Wyn a Rhian i’w helpu i greu anrheg a’i drosglwyddo i holl ysgolion cynradd y sir..... roedd pawb wrth eu boddau yn cael helpu Siôn a Mrs Corn wrth gwrs! Mwynhewch!

Gwyliwch neges Sion Corn yma: https://youtu.be/MNTid1ou2Qc

21/12/2020