Ar ddydd Llun 02 Mawrth 2020, plediodd gwerthwr pysgod teithiol o ogledd-ddwyrain Lloegr yn euog o ddau drosedd yn Llys yr Ynadon yn Aberystwyth ar ôl iddo gyfaddef ei fod wedi methu â chynorthwyo Swyddogion Safonau Masnach o Wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion. Roedd wedi methu â darparu cofnodion i ddangos pwy oedd wedi cyflenwi’r pysgod a ddarganfuwyd yn ei fan, sy’n ofyniad cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth diogelwch bwyd.

Clywodd y Llys sut roedd Alexander Hannan, gwerthwr pysgod teithiol sy’n masnachu o dan yr enw ‘Alex Fisheries’, wedi bod yn ymweld â chartrefi trigolion oedrannus yn y Sir a’r cyffiniau ym mis Tachwedd 2018. Datganodd y sawl a oedd wedi cwyno bod prisiau’r pysgod yn rhy uchel a’u bod wedi difetha.

Gyda chymorth Heddlu Dyfed-Powys, ataliwyd cerbyd Hannan, sef fan Ford Transit gwyn, yn Llanrhystud pan ddaeth yn ôl i’r Sir ar 10 Ionawr 2019. Pan archwiliwyd y cerbyd gan swyddogion Tîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion, daethpwyd o hyd i becynnau o bysgod wedi’u labelu ac heb eu labelu wedi’u gwasgaru ar lawr yng nghefn y fan. Dywedodd Hannan wrth y swyddogion nad oedd ganddo unrhyw ddogfennau olrhain ar gyfer y pysgod, ond y byddai’n gallu cael derbynneb erbyn diwedd yr wythnos honno. Yn ddiweddarach yr wythnos honno, methodd Hannan â darparu manylion y sawl a oedd wedi gwerthu’r pysgod iddo, a pharhaodd i fethu â gwneud hynny ar ôl derbyn nodiadau atgoffa ysgrifenedig.

Pan archwiliwyd ei gerbyd, ildiodd Hannan naw pecyn o bysgod i Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd. Roedd dadansoddiad ffurfiol o’r pecynnau hyn yn dangos mai ychydig iawn o oes silff oedd gan y mwyafrif yn weddill, ac roedd gan rai arogl cryf a oedd yn awgrymu bod y pysgod wedi difetha.

Plediodd Hannan yn euog i ddau drosedd yn groes i Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004. Rhoddodd y Llys rywfaint o glod i Hannan am bledio’n euog, ond gorchmynnwyd iddo dalu dirwyon a chostau o dros £700.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd. Rhybuddiodd drigolion ynglŷn â pheryglon prynu nwyddau gan werthwyr teithiol sy’n galw’n ddiwahoddiad yng Ngheredigion. Dywedodd: “Mae angen i drigolion fod yn ymwybodol eu bod yn cymryd risg os ydyn nhw’n prynu bwyd gan fasnachwyr anhysbys. Mae gwerthwyr pysgod ag enw da yn gweithredu yn y Sir ac mae ganddynt lwybrau sefydledig. Fodd bynnag, os oes masnachwr nad ydych chi erioed wedi’i gwrdd o’r blaen yn ymweld â chi ac yn cynnig pysgod i chi o gefn fan, byddwch yn wyliadwrus. Mae ein Tîm Diogelu’r Cyhoedd yma i ddiogelu cwsmeriaid a chymryd camau yn erbyn masnachwyr twyllodrus sy’n herio’r gyfraith.

Gellir cyfeirio cwynion ynghylch masnachwyr sy’n galw’n ddiwahoddiad at eich Gwasanaeth Safonau Masnach lleol drwy ffonio Cyngor ar Bopeth ar 0845 404 0505 (llinell Gymraeg) neu 0845 404 0506 (llinell Saesneg).

03/03/2020