Mae ‘Merched Yn Neud Miwsig’, digwyddiad a gyflwynir gan Glwb Ifor Bach a Maes B, yn dychwelyd i Aberystwyth gyda gig yn Amgueddfa Ceredigion ar 6 Ebrill.

Bydd yr artist amryddawn Ani Glass yn agor y noson, cyn y prif berfformiad gan y triawd post-pync Adwaith. Mae hwn yn gyfle gwych i fwynhau cerddoriaeth fyw gan rai o’r artistiaid mwyaf blaenllaw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Guto Brychan, trefnydd Maes B, “Mae ‘na bryder ers ychydig o amser bod prinder merched yn y sîn, ac roedden ni ym Maes B yn teimlo bod angen cymryd camau i newid hyn. Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath, a’r bwriad yw ceisio cynyddu'r nifer o artistiaid a bandiau benywaidd sydd ar gael i chwarae ar lwyfannau Cymru, ac ysbrydoli merched ifanc i fynd ati i gael yr hyder i ddilyn ôl traed bandiau gwych y sîn, fel Serol Serol ac Adwaith, a dechrau bandiau eu hunain.”

Cyn y gig yn Amgueddfa Ceredigion, bydd gweithdy ‘Merched Yn Neud Miwsig’ yn cael ei gynnal yn Arad Goch ar 6 Ebrill, rhwng 10yb a 4yp.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion, “Mae’n wych bod gan yr amgueddfa'r cyfle hwn i groesawu Adwaith yn ôl i Aberystwyth. Mae’n edrych y bydd 2019 yn flwyddyn brysur iddyn nhw, felly peidiwch â cholli’r cyfle hwn i fwynhau eu perfformiad rhagorol nhw ac Ani.”

Mae tocynnau yn £10 (Tocynnau Talu’n Gynnar yn £8) ac ar gael o Amgueddfa Ceredigion a clwb.net. Bydd y drysau’n agor am 7yh. 16oed+. Ewch i www.ceredigionmuseum.wales am ragor o wybodaeth. Dilynwch @amgueddfaceredigionmuseum ar Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau yn yr amgueddfa. I gael gwybod am y cynigion diweddaraf yn Nhŷ Coffi'r Colisëwm, dilynwch @coliseumcoffee ar Facebook

12/03/2019