Mae gwasanaeth newydd pwrpasol wedi cael ei sefydlu i helpu gofalwyr di-dâl yng Ngheredigion. Mae Gofalwyr Ceredigion Carers (GCC) yn darparu llawer o wasanaethau gan gynnwys cyngor a chymorth emosiynol i ofalwyr, yn ogystal â'u helpu i gael seibiannau byr o'u cyfrifoldebau gofalu.

Mae'r gwasanaeth newydd yn darparu cyngor ar wybodaeth a chymorth emosiynol ar sail unigol i ofalwyr. Maent yn trefnu hyfforddiant a digwyddiadau cymdeithasol ac yn trefnu seibiannau oddi wrth ofalu, gan gynnwys gofal seibiant.

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw Hyrwyddwr Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Mae gofalwyr yn darparu gofal hanfodol ar gyfer ffrindiau ac aelodau o'u teulu. Mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu; mae gwasanaeth newydd Gofalwyr Ceredigion Carers yn gwneud hynny’n union.”

"Os ydych chi'n gofalu am aelod o'ch teulu neu ffrind, cysylltwch â gofalwyr Carers Ceredigion i gael yr help yr ydych yn ei haeddu."

Mae'r GCC wedi cael ei gomisiynu ar y cyd gan Gyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r GCC yn cynnwys tri sefydliad sydd â phrofiad mewn darparu gwasanaethau i Ofalwyr yng Nghymru. Mae’r tri ohonynt yn aelodau o Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Credu Cysylltu Gofalwyr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr - Croesffyrdd Sir Gâr ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr - Chroesffyrdd Gogledd Cymru yw’r tri sefydliad.

Bydd Credu Cysylltu Gofalwyr yn gwrando ar yr hyn sy'n bwysig i ofalwyr a darparu gwybodaeth a chymorth. Bydd Croesffyrdd Sir Gâr yn darparu gofal seibiant tymor byr yn ne'r sir a Chroesffyrdd Gogledd Cymru yn darparu gofal seibiant tymor byr yng ngogledd y sir.

Sarah Jennings yw Cyfarwyddwr Partneriaethau a Gwasanaethau Corfforaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Meddai, “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth agos â Chyngor Sir Ceredigion i lansio Gofalwyr Carers Ceredigion. Mae bod yn ofalwr yn gallu bod yn werth chweil iawn ond mae hefyd yn dod gyda chyfrifoldebau enfawr ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gallu darparu cefnogaeth a help yn eu tro i'r rheiny sy'n ymgymryd â'r rôl yma.”

I gael gwybod mwy am y GCC ewch i www.credu.cymru neu’r dudalen Facebook, ‘Gofalwyr Ceredigion Carers’. Mae ganddynt hefyd gyfrif Instagram, ‘gofalwyrceredigioncarers’ a chyfrif Twitter, @GofalwyrC. Gallwch hefyd gysylltu â GCC drwy ebostio ceredigion@credu.cymru neu drwy ffonio 03330 143377.

12/04/2019