Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion (GIC) yn cynnal ei seremoni wobrwyo flynyddol ar 17 Ebrill, yn Theatr Felinfach rhwng 4-7yp. Bydd y seremoni yn gyfle i ddathlu a chydnabod cyflawniadau a llwyddiannau’r holl bobl ifanc sydd wedi ymgysylltu â GIC yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cydnabyddir disgyblion o bob ysgol uwchradd yng Ngheredigion, pobl ifanc sy'n gweithio gyda'n gwasanaeth allgymorth a'r holl bobl ifanc sy'n mynychu’r clybiau ieuenctid a’r darpariaethau dros y gwyliau.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi darparu amrywiaeth eang o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau eleni eto gyda mwy na 5,000 o bobl ifanc yn mynychu a chyfrannu. Bu'r rhain yn llwyddiant ysgubol oherwydd ymrwymiad a brwdfrydedd pobl ifanc o bob rhan o Geredigion. Mae’r seremoni yn gyfle bendigedig i ddathlu’r cyflawniadau o’r bobl ifanc ac i adlewyrchu’r cyfleoedd bendigedig a threfnwyd a darparwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion.”

Bydd y seremoni yn cydnabod dros 400 o unigolion sydd wedi ennill achrediad/au cenedlaethol yn 2017-2018 ac yn arddangos cyflawniadau a gwaith rhagorol pobl ifanc. Mae gwahoddiadau i fynychu’r seremoni wedi’i dosbarthu i bobl ifanc rhwng 11-25 oed a’u teuluoedd ledled y sir.

Dywedodd Gethin Jones, Prif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae’r nifer o gymwysterau allgyrsiol sydd wedi cael eu cyflawni gan bobl ifanc yn 2017-18, yn ogystal â’r nifer o gyflawniadau arbennig bydd yn cael eu cyhoeddi ar y noson, yn adlewyrchiad o’r amrywiaeth o waith sy’n cael ei wneud i gefnogi ein pobl ifanc. Mae hefyd yn dystiolaeth o ymrwymiad y gweithwyr ieuenctid, yr ysgolion a’r darparwyr addysg yn y gweithle ar draws y sir. Mae’r seremoni wobrwyo yn gyfle i gydnabod holl waith caled ein pobl ifanc ni dros y flwyddyn, ac yn gyfle iddynt deimlo balchder yn eu hunain. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r bobl ifanc a’u teuluoedd i ymuno â ni i ddathlu.”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Wasanaeth dynodedig i bobl ifanc rhwng 11-25 oed yng Ngheredigion. Mae’n wasanaeth sy’n ymrwymo i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol pobl ifanc drwy gymorth arbenigol a darpariaeth mynediad agored. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion, Gwaith Ieuenctid Allgymorth a Chlybiau Ieuenctid.

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

03/04/2018