Cymeradwywyd model gwasanaeth casglu gwastraff newydd i Geredigion gan y Cabinet mewn cyfarfod ar 27 Mawrth 2018.

Bydd y gwasanaeth newydd yn gweld parhad o gasglu gwastraff bwyd a’r system bagiau clir ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu. Bydd y gwasanaeth newydd hefyd yn gweld cyflwyniad o gasgliadau gwydr ar garreg y drws y bydd yn cael ei gasglu – gyda gwastraff gweddilliol – bob tair wythnos.

Mae’r gwasanaeth newydd yn ystyried adborth a dderbyniwyd gan gynnwys adborth o broses ymgynghori cyhoeddus ac yn dilyn treialu casglu gwastraff yn ardaloedd Aberteifi a Phenparc.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Technegol, y Cynghorydd Ray Quant MBE, “Mae’n glir bod y mwyafrif o drigolion yn gweld gwerth casgliadau o’u cartrefi; mae’r penderfyniad Cabinet yn gwneud hyn yn realiti ledled y sir am y tro cyntaf. Mae hwn yn enghraifft o Caru Ceredigion ar waith gyda’r Cyngor a’r cyhoedd yn chwarae eu rhan er lles pawb.”

Mae darparu gwasanaethau sydd yn hybu a galluogi ymddygiadau gwastraff positif yn cynnig llawer o fuddion. Yn ogystal â bod yn well i’r amgylchedd, mae lleihau’r gwastraff sy’n cael ei gymryd i safle tirlenwi yn lleihau cost ddiangenraid ac yn helpu cadw Ceredigion yn lân. Mae’r gwasanaeth newydd hefyd yn edrych i wella casgliad gwastraff bwyd gan ddarparu leinwyr cadi gwastraff bwyd yn rhad ac am ddim. Bydd y leinwyr yma’n cael eu dosbarthu fel bod y Cyngor yn gweithredu’r gwasanaeth newydd. Yn y cyfamser gall drigolion gasglu eu rolau o leinwyr cadi gwastraff bwyd o swyddfeydd cyllid a llyfrgelloedd y Cyngor.

Parhaodd Cynghorydd Quant, “Dangosodd dadansoddiad o gynnwys bagiau du sydd yn mynd i safle tirlenwi y gall 50% o’r cynnwys fod wedi cael ei ailgylchu. Mae Ceredigion yn arwain Cymru pan yn dod i ailgylchu ond mae hwn yn dangos gallwn wella hyd yn oed mwy. Bydd symud i gasgliad bagiau du bob tair wythnos yn hybu trigolion i feddwl ymhellach am beth gall gael ei ailgylchu; gall hwn leihau’r gwastraff sy’n cael ei daflu mewn bagiau du i’r safle tirlenwi.”

Bydd y cerbydau angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth newydd nawr yn cael eu caffael a bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu cynllun gweithredu. Ystyrir y bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau yn ystod Gwanwyn 2019.

29/03/2018